Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Port Talbot

Mae ardal drefol y ward hon yn adeiledig iawn, a'r prif fannau gwyrdd yw'r tiroedd pêl-droed a Pharc Coffa Talbot. Fodd bynnag, mae'r bryniau sy'n sefyll uwchben y dref yn gefndir hardd. Mae llethrau'r bryniau wedi'u gorchuddio â rhostir gan gynnwys cymysgedd o rug a rhedyn. Uwchlaw hyn ar Fynydd Emroch mae tir ffermio a fferm solar. Uwchben hyn eto mae ardal o blanhigfa gonwydd. Mae ardal o goetir hynafol lled-naturiol mewn gorlifdir bach ar afon Afan. Mae llawer o gyrsiau dŵr bach ac mae afon Afan yn rhedeg drwy'r ardal drefol.

Rydym yn rhannu’n hardaloedd trefol â llawer o rywogaethau. Mae'r rhain yn cynnwys adar y to sydd wedi dirywio'n fawr yn y DU.  Gall ystlumod fel y corystlum cyffredin ddefnyddio tai hefyd. Maent yn hoffi clwydo mewn bylchau bach fel o dan deils neu y tu ôl i wynebfyrddau. Mae afon Afan a'i hisafonydd yn bwysig ar gyfer dyfrgwn, trochwyr a gleision y dorlan ac ystlumod. Mae'r rhostir yn gartref i ymlusgiaid ac adar fel clochdar y cerrig. I fyny ar y bryniau gellir gweld cigfrain, barcutiaid coch a boncathod. Mae'r planhigfeydd yn gartref i walch Marth, y gylfin groes a’r pila gwyrdd

Camau Gweithredu

  1. Archwiliwch opsiynau ar gyfer isadeiledd gwyrdd ar adeiladau yn y ward e.e. toeon gwyrdd neu waliau byw
  2. Anogwch etholwyr wardiau i gymryd rhan yn 'Stryd y Draenog' i wella cysylltedd â'r cynefin i ddraenogod yn y ward
  3. Anogwch etholwyr wardiau i godi 'terasau' adar y to a blychau ystlumod.