Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Llangatwg

Yn ne'r ward mae SBCNau Moryd Nedd a Gwlyptir Catwg. Mae'r rhain yn safleoedd gwlyptir pwysig sy'n helpu i leihau llifogydd drwy weithredu fel ardal naturiol i'r dŵr grynhoi ynddi yn ystod llifogydd. Mae rhan o Barc Gwledig Graig Gwladus o fewn y ward. Mae hwn yn safle coetirol pwysig. Mae waliau cerrig sych yn nodwedd o dir ffermio uchel, y mae ardaloedd ohonynt yn cadw nodweddion glaswelltir corsiog. Mae'r ward gyfan mewn B-Line.

Mae'r morfa heli ym Moryd Nedd yn cynnal adar dŵr a hirgoes gan gynnwys yr alarch ddof, y gylfinir, y cornchwiglen, y crëyr glas a’r crëyr bach. Mae'r gamlas yn cynnig cynefin ar gyfer gweision y neidr, nadroedd y glaswellt, adar nythu a llystyfiant ifanc fel yr ellesgen. Mae'r amrywiaeth eang o gynefinoedd ar draws y ward yn darparu cyfleoedd bwydo a chlwydo i ystlumod a safleoedd nythu i lawer o rywogaethau adar. Mae’r ardaloedd ucheldirol yn cynnwys grug, plu'r gweunydd a dangosyddion rhostir/glaswelltir corsiog eraill.

Camau Gweithredu

  1. Mae Cyfeillion Craig Gwladus yn grŵp gwirfoddol gweithgar sy'n gofalu am Barc Gwledig Craig Gwladus. Gallwch gyfeirio pobl yn y ward sydd â diddordeb mewn natur at wirfoddoli gyda'r grŵp hwn.
  2. Anogwch yr ysgolion i weithredu dros natur e.e. Ardaloedd Caru Gwenyn CNPT, bocsys adar, garddio bywyd gwyllt
  3. Cynyddwch ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt yn y ward e.e. trwy gynnal teithiau cerdded bywyd gwyllt ar hyd y gamlas