Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dwyrain Llansawel

Glaswelltiroedd sy'n cael eu pori gan ddefaid yn bennaf; mae ardal sylweddol o goetir hynafol lled-naturiol yn y gorllewin. Mae rhan o SBCN y Waun yn y ward sydd wedi'i dynodi ar gyfer ei brithwaith o gynefinoedd Mae SBCN Gwrychoedd Bwlch Road yn rhedeg ar hyd dwyrain y ward. Mae'r rhain yn wrychoedd ac yn gloddiau hynafol sy'n bresennol ar y rhifyn cyntaf o'r Arolwg Ordnans.  Mae rhan fach ond pwysig o SBCN Garth Mor yng ngogledd-orllewin y ward. Mae wedi'i ddynodi'n goetir brodorol. Mae'r rhan fwyaf o'r ward o fewn B-Line. Mae gan Barc Jersey ardaloedd sy'n cael eu rheoli ar gyfer natur.

Gall y cymysgedd o gynefinoedd gynnal mamaliaid fel draenogod, ysgyfarnogod brown, moch daear a rhywogaethau ystlumod. Gellir gweld rhywogaethau adar fel aderyn y to, y fronfraith a llwyd y berth mewn ardaloedd trefol gyda chigfrain, bwncathod a gweilch Marth yn hela ar y bryniau.

Camau Gweithredu

  1. Mae Cyfeillion Parc Jersey yn grŵp gwirfoddol gweithgar sy'n cymryd camau i helpu natur yn y parc. Gallwch gyfeirio pobl yn y ward sydd â diddordeb mewn natur at wirfoddoli gyda'r grŵp hwn.
  2. Chwiliwch am leoliadau ar gyfer rheoli Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward e.e. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai gwair yn cael ei dorri yn ystod yr haf e.e. ar ymylon, yn y parciau ac yn y fynwent.
  3. Cynyddwch ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt yn y ward e.e. trwy gynnal troeon bywyd gwyllt ym Mharc Jersey