Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gorllewin Llansawel

Er ei fod wedi'i drefoli'n bennaf, mae gan y ward hon rywfaint o fioamrywiaeth gyffrous. Mae Moryd Nedd yn cynnwys tywod, gwastadeddau llaid a gorlifdiroedd; Mae Giants Grave yn safle eithriadol ar gyfer creaduriaid di-asgwrn-cefn; Mae gan Goed Shelone arddangosfeydd clychau'r gog ysblennydd; Mae gan Gamlas Castell-nedd lystyfiant gwlyptir hardd; Mae Corsle Doc Brunel yn gartref i adar y gwlyptir; Mae gan Dir Gwastraff Llansawel, Glaswelltir Doc Brunel a byndiau Maes Parcio'r Ceiau amrywiaeth mawr o flodau ac maent yn gartref i beillwyr, yn ogystal â gweithredu fel coridorau drwy'r dirwedd. Mae llawer o'r glaswelltir yn cael ei reoli ar gyfer cadwraeth natur, megis o amgylch swyddfeydd y cyngor yn y Ceiau. Mae'r rhan fwyaf o'r ward o fewn B-Line.

Mae'r ward hon yn arbennig o gyfoethog o ran rhywogaethau oherwydd ei hamrywiaeth o gynefinoedd. Mae adar hirgoes fel pioden y môr yn nythu yn y dociau ac mae’r gwastadeddau llaid yn bwysig ar gyfer y gylfinir, y pibydd coesgoch a hwyaden yr eithin. Mae telor Cetti'n bridio yn y corsleoedd.  Mae llaethwyg licoris yn tyfu yng nglaswelltiroedd y dociau. Mae Giants Grave yn cynnwys rhostir, coetir ac ardaloedd agored ac mae ganddi o leiaf 206 rhywogaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn gan gynnwys y wenynen hirgorn

Camau Gweithredu

  1. Dylid dathlu a gwarchod yr amrywiaeth cyfoethog o rywogaethau yn y ward hon. Gallwch annog bobl yn y ward i ymwneud â safleoedd arbennig y ward hon drwy deithiau tywys a hyrwyddo'r ardaloedd.
  2. Byddai Cae James yn safle gwych ar gyfer dôl Caru Gwenyn CNPT. Siaradwch â'r tîm bioamrywiaeth i gael rhagor o wybodaeth am ddewisiadau.
  3. Bydd angen cymorth gwirfoddolwyr yn Giant's Grave yn ystod y blynyddoedd nesaf i warchod y cynefin creaduriaid di-asgwrn-cefn prin.