Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwynfi a Chroeserw

Mae gweddluniau gogledd a de'r dyffryn hwn yn drawiadol o wahanol. I'r gogledd, planhigfeydd conwydd helaeth sy’n goruchafu. Yn anffodus, cawsant eu plannu ar gors fawnog. Mae prosiect mawr ar y gweill sy'n gweithio i adfer rhannau helaeth o'r gors, a fydd yn dal carbon ac yn cael y dirwedd yn ôl i'r ffordd yr oedd yn arfer edrych. I'r de mae glaswelltir ucheldir y de yn gorchuddio'r bryniau a'r cymoedd. Yn y pentref mae 3 SBCN. Mae Gwynfi Street, Scotch Street a Caroline Street i gyd wedi'u dynodi ar gyfer eu cymysgedd o laswelltir/rostir asidig. Ceir peth gweddillion o goetiroedd hynafol lled-naturiol hefyd. Mae rhywfaint o'r ward mewn BLine.

Mae'r coedwigoedd conwydd yn gartref i walch Marth, y gylfin groes a’r pila gwyrdd Mae llygod y dŵr wedi'u darganfod yn ddiweddar yn ardal y fferm wynt. Mae'r rhywogaeth hon o dan fygythiad difrifol o golli cynefin a'u hysglyfaethu gan fincod Americanaidd anfrodorol. Mae dod o hyd i'r boblogaeth newydd hon yn bwysig iawn. Mae afon Afan a'i hisafonydd yn bwysig ar gyfer dyfrgwn, trochwyr a'r siglennod llwyd. Porfeydd brwyn a glaswellt y gweunydd sy’n goruchafu’r bryniau i’r de ynghyd â rhostir gyda brigiadau creigiog. Mae'r cynefin yma’n addas i ehedyddion, tinwennod y garn, barcutiaid coch ac ysgyfarnogod brown.

Camau Gweithredu

  1. Cefnogwch a hyrwyddwch safleoedd Adfer Mawndiroedd a'r digwyddiadau Adfer Mawndiroedd a fydd yn cael eu cynnal dros y blynyddoedd nesaf.
  2. Mae cynefinoedd glaswelltir a rhostir yn aml mewn perygl o blannu coed yn amhriodol, a all niweidio cynefinoedd ac achosi i garbon gael ei ryddhau. Gwarchodwch gynefinoedd fel hyn rhag cynlluniau plannu coed.
  3. Anogwch bobl i ddysgu am fioamrywiaeth y planhigfeydd conwydd