Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dwyrain Traethmelyn

Er ei fod yn eithaf trefol, mae gan Ddwyrain Traethmelyn lawer o gynefinoedd da. Mae llawer o ymylon glaswellt sydd, yn y gwanwyn, yn cael eu gorchuddio â llygaid y dydd a dant y llew sy'n cynnig bwyd cynnar ar gyfer brenhines y gwenyn sy'n datblygu.Ar yr arfordir mae SBCN Little Warren a moryd aber afon Afan Isaf yn rhan o gynefin arfordirol hanfodol sy'n ymestyn y tu hwnt i CNPT. Mae Little Warren yn dwyn tywod arfordirol â glaswelltir cysylltiedig, a reolir gan YNDGC. Mae gan y foryd frithwaith o blanhigion morfa heli ar hyd stribed rhwng fflatiau llaid a glaswelltir arfordirol. Mae digon o botensial i reoli ymylon ffyrdd ar gyfer blodau gwyllt dan gynllun Caru Gwenyn CNPT, sydd wrthi'n cael ei ymchwilio. Mae'r ward gyfan mewn B-Line.

Mae SBCN Little Warren wedi'i ddynodi ar gyfer ei furwyll arfor, planhigyn deniadol a geir mewn twyni tywod ar y cyd â moresg. Mae gan yr ardal hefyd laethlys y môr, plucen felen, môr-hollt a chelyn y môr. Mae'r foryd yn safle bwydo pwysig ar gyfer adar hirgoes fel y pibydd coesgoch, y gylfinir a phibydd y tywod. Mae'r ward gyfan yn adnodd pwysig ar gyfer adar y to a drudwyod. Mae'r ddwy rywogaeth hyn wedi dioddef dirywiad sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf. Weithiau gellir gweld llamhidyddion allan yn y môr. Rydym yn rhannu’n hardaloedd trefol â llawer o rywogaethau. Mae'r rhain yn cynnwys adar y to sydd wedi dirywio'n fawr yn y DU. Gall ystlumod fel y corystlum cyffredin ddefnyddio tai hefyd. Maent yn hoffi clwydo mewn bylchau bach fel o dan deils neu y tu ôl i wynebfyrddau.

Camau Gweithredu

  1. Nodwch gyfleoedd ar gyfer isadeiledd gwyrdd yn y ward e.e. toeon gwyrdd, rhagor o goed ar y stryd a/neu waliau byw
  2. Ymgymerwch â phrosiect i wneud glan môr Aberafan yn gyfeillgar i beillwyr a'i ddefnyddio fel lle addysgol i hyrwyddo cadwraeth natur.
  3. Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf