Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dwyrain Castell-nedd

Mae'r ward amrywiol hon yn cynnwys cynefinoedd moryd, afon, camlas, diwydiannol a threfol, coetir, tir ffermio a brithwaith. Mae Moryd Nedd ar y pwynt hwn yn gors pori ar orlifdir yn bennaf, gyda glannau mwd a cherrig mân. Mae tirlunio yn yr ardaloedd diwydiannol a threfol yn darparu coridorau gwyrdd i rywogaethau symud drwyddynt. Mae SBCN y Pwll Sgwâr wedi'i ddynodi ar gyfer ei frithwaith o gynefinoedd a fflora dyfrol a rhai sy'n dod allan. Mae gan SBCN Camlas Nedd hefyd enghreifftiau gwych o fflora dyfrol. Mae SBCN Garth Mor yn ardal fechan o goetir amrywiol. Mae rhan o SBCN y Waun yn y ward sydd wedi'i dynodi ar gyfer ei brithwaith o gynefinoedd Mae Cwm Cryddan yn Warchodfa Natur Leol lle gall pobl gael mynediad hawdd i fyd natur. Mae'r rhan fwyaf o'r ward mewn B-Line.

I lawr ar y morfa heli gellir gweld adar fel y crëyr bach a’r gornchwiglen. Mae toeon unedau diwydiannol yn ddewis amgen gwych i safleoedd nythu naturiol ar glogwyni ar gyfer sawl rhywogaeth o wylanod. Mae Gwylanod y Penwaig wedi dirywio yn eu hamrediad naturiol ond maent yn defnyddio’n toeon. Mae'r tai Fictoraidd yng Nghastell-nedd yn darparu safleoedd nythu perffaith ar gyfer gwenoliaid duon. Mae afon Nedd a'i hisafonydd yn bwysig i ddyfrgwn sydd hyd yn oed i'w gweld yn yr ardaloedd diwydiannol. Caiff blychau ystlumod yng Nghwm Cryddan eu harchwilio'n rheolaidd gan wirfoddolwyr y canfuont yn ddiweddar fod clwyd famolaeth o ystlumod Natterer yno. Mae'r tir ffermio ar ochr y bryn yn gartref i ysgyfarnogod brown.

Camau Gweithredu

  1. Anogwch breswylwyr i ymweld â Gwarchodfa Natur Leol Cwm Cryddan i fwynhau'r natur sydd ar gael yno, a chymryd rhan mewn digwyddiadau gwirfoddol yma.
  2. Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf
  3. Mae ein gwenoliaid duon mewn trafferthion a gallwch helpu. Ewch ati i nodi adeiladau yn y ward lle gellir codi blychau nythu ar gyfer gwenoliaid duon i gymryd lle'r rhai a gollwyd pan ailwampiwyd hen adeiladau. Mae prosiect gwenoliaid duon yn cael ei gynnal eleni i ariannu'r blychau hyn, cysylltwch â'r tîm i gael gwybod mwy.