Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gorllewin Coedffranc

Dyma un o'n wardiau mwyaf amrywiol ar gyfer bioamrywiaeth. Mae'r hen burfa olew yn cael ei hailddatblygu fel pentref newydd ar hyn o bryd. Mae Cors Crymlyn wedi'i ddynodi'n ACA gan ei fod o bwysigrwydd Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys Ffen Pant-y-Sais a chymysgedd o gymunedau ffen, corsleoedd a phrysgwydd. Ar hyd y de mae SoDdGA Twyni Crymlyn, ardal helaeth o dwyni a morfa heli sy'n arwain at Foryd Nedd. Mae nifer o safleoedd yn cael eu rheoli dan gynllun Caru Gwenyn CNPT, gan gynnwys ymylon Fabian Way, sy'n cael eu rheoli ar gyfer eu harddangosfeydd blodau gwyllt. Mae rhywfaint o'r ward mewn B-Line. Mae YNDGC yn rheoli Ffen Siaced Goch, estyniad o gynefin y ffen ym Mhant y Sais.

Mae datblygiad Coed Darcy wedi golygu symud dros 9000 o fadfallod cribog mwyaf i dderbynle. Pant-y-Sais a Chors Crymlyn yw'r unig le yng Nghymru lle gellir dod o hyd i gorryn rafft y ffen, un o gorynnod mwyaf Ewrop. Mae'r safle hefyd yn lle gwych i weld y rhedynen gyfrdwy a'r gwlithlys. Yn Nhwyni Crymlyn gallwch ddod o hyd i heidiau o adar hirgoes fel y cwtiad torchog, y gylfinir, pioden y môr a phibydd y tywod yn ogystal â chlochdar y cerrig a'r ehedydd sy'n bridio.

Camau Gweithredu

  1. Dylid dathlu a gwarchod yr amrywiaeth cyfoethog o rywogaethau yn y ward hon. Gallwch annog bobl yn y ward i ymwneud â safleoedd arbennig y ward hon drwy deithiau tywys a hyrwyddo'r ardaloedd.
  2. Helpwch i hyrwyddo safleoedd Caru Gwenyn CNPT yn y ward.
  3. Anogwch y diwydiannau yn y ward hon i gymryd camau dros natur e.e. ôl-osod isadeiledd gwyrdd, codi blychau adar ac ystlumod a rheoli glaswelltiroedd fel dolydd.