Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Glynnedd (Canol a Dwyrain)

Mae'r ardaloedd trefol wedi'u cyfyngu i lawr y dyffryn ac wedi'u hymylu gan bocedi o goetir lled-naturiol hynafol. Yr unig SBCN yn y ward ger yr hen Lamb & Flag yw cymysgedd o gynefinoedd ar hen orlifdir. Mae ardal fechan o ACA Coedydd Nedd a Mellte, a ddynodwyd ar gyfer ei choetir amrywiol, yn y ward. Mae rhannau o SoDdGA coetir Dyffrynnoedd Nedd a Mellte a SoDdGA coetir Moel Penderyn a SoDdGA daearegol nentydd Cwm Gwrelych a Nant Llyn Fach yn y ward.

Mae afon Nedd a'i hisafonydd yn bwysig i ddyfrgwn, trochwyr ac ystlumod sy'n chwilota. Mae'r coetir brodorol yn gartref i wybedwyr brith, tylluanod brych, cnocellod brith mwyaf a rhywogaethau ystlumod. Mae'r planhigfeydd conwydd yn gartref i walch Marth, y gylfin groes a’r pila gwyrdd Mae'r tir ffermio’n dda ar gyfer ysgyfarnogod brown, moch daear a draenogod. Mae glaswelltiroedd sy'n llawn rhywogaethau’n cynnwys planhigion fel effros, y gribell felen a blodau'r brain. Mae ymlusgiaid yn defnyddio'r brithwaith o gynefinoedd agored.

Camau Gweithredu

  1. Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf
  2. Dylid dathlu a gwarchod yr amrywiaeth cyfoethog o rywogaethau yn y ward hon. Gallwch annog bobl yn y ward i ymwneud â safleoedd arbennig y ward hon drwy deithiau tywys a hyrwyddo'r ardaloedd.
  3. Anogwch tirfeddianwyr i reoli tir mewn ffordd sy'n sensitif i natur. Efallai y bydd rhai am ymuno â'r Grŵp Dolydd lleol, cysylltwch â'r tîm i gael gwybod mwy.