Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cwmllynfell ac Ystalyfera

Nodweddir y ward gan laswelltiroedd corsiog, rhostir uchel, dolydd isel, brithwaith o gynefinoedd agored a thir fferm wedi'i bori. Mae rhai ardaloedd o goetir brodorol a hynafol lled-naturiol ond planhigfa gonwydd yw'r rhan fwyaf o'r gorchudd coed. Mae Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC) Pen-y-Bryn a Phant-y-Brwyn ill dau wedi'u dynodi ar gyfer eu cynefinoedd glaswelltir corsiog sy'n gyfoeth o rywogaethau. Mae'r caeau y tu ôl i SINC Heol-y-Coedcae wedi'u dynodi'n gorgors, gyda mawn dros 1 metr o ddyfnder. Mae rhan fawr o'r ward wedi'i chwmpasu gan SINC Tiroedd Comin Cwm Aman Uchaf, sydd wedi'i ddynodi ar gyfer brithwaith o gynefinoedd gan gynnwys glaswelltir asidig, glaswellt y gweunydd a phorfeydd brwyn, rhostir a chorsydd a thir gwlyb. Mae tua hanner y ward mewn B-Line.

Mae'r cymysgedd gwych o gynefinoedd yn golygu bod gan yr ardal gyfoeth o rywogaethau. Gellir dod o hyd i’r ehedydd a’r cornchwiglen drwyddi draw. Mae mamaliaid yn cynnwys nifer o rywogaethau ystlumod, moch daear, ysgyfarnogod brown a draenogod. Gellir gweld rhywogaethau planhigion arbenigol yn yr ardaloedd gwlypach gan gynnwys llafn y bladur, gwlyddyn Mair y gors, ffeuen y gors, plu'r gweunydd unben a gwlith yr haul. Mae'r coridorau gwyrdd yn yr ardaloedd trefol yn dda ar gyfer adar y to, sydd wedi dirywio'n ddramatig yn y DU dros y degawdau diwethaf. Mae’r afonydd Twrch a Thawe yn gynefinoedd pwysig i ddyfrgwn, bronwennod y dŵr, gleision y dorlan ac ystlumod. Gellir dod o hyd i fadfallod ar hen safleoedd tir llwyd. Gellir gweld tylluanod gwynion yn hela dros y tir fferm.

Camau Gweithredu

  1. Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf
  2. Archwiliwch opsiynau ar gyfer isadeiledd gwyrdd ar adeiladau yn y ward e.e. toeon gwyrdd neu waliau byw
  3. Mae rhywogaethau planhigion anfrodorol ymledol yn broblem yn y ward hon. Mae trefnu i gael gwared ar ffromlys neu gynyddu ymwybyddiaeth o sut i wneud hyn (mae'n hawdd iawn!) yn ffordd dda o helpu i fynd i'r afael â'r mater.