Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Alltwen

Mae'r ward yn cynnwys 3 SBCN. Mae dau wedi'u dynodi'n ddolydd iseldir ac mae Fferm Alltwenganol wedi'i dynodi ar gyfer ei dolydd iseldir a gwrychoedd hynafol sy'n llawn rhywogaethau. Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (YNDGC) yn berchen ar Graig Cilhendre, coetir llydanddail cymysg. Mae'n goetir llydanddail rhannol gymysg gyda choed derw ucheldirol ar ben hyn ac isdyfiant o lusi duon bach. Mae enghreifftiau da o wrychoedd sy'n llawn rhywogaethau yn cael eu cynnal fel rhan o'r cynllun Safle Cadwraeth Natur. Mae nifer o gyrsiau dŵr yn y ward gan gynnwys rhan o afon Tawe.

Mae afon Tawe a'i hisafonydd yn bwysig i ddyfrgwn, trochwyr, gleision y dorlan ac ystlumod sy'n chwilota. Mae dolydd yr iseldir yn cynnwys llawer o blanhigion diddorol fel effros, llysyrlys a gribell felen. Gall yr amrywiaeth o gynefinoedd gynnal llawer o rywogaethau adar a mamaliaid gan gynnwys adar y to, llinosod, rhywogaethau ystlumod a draenogod.

Camau Gweithredu

  1. Efallai bydd angen cymorth gwirfoddolwyr ar YNDGC at ddibenion rheoli neu gynnal arolygon yng nghoedwig Craig Cilhendre. Gallwch annog pobl frwd yn y ward i gymryd rhan.
  2. Mae gan afon Tawe broblemau gyda rhywogaethau planhigion estron ymledol y gallwch helpu i fynd i'r afael â hwy drwy drefnu i gael gwared ar ffromlys.
  3. Cynyddwch ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt yn y ward e.e. trwy gynnal teithiau cerdded bywyd gwyllt ar hyd yr afon neu Graig Cilhendre