Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Aberdulais

Mae'r ward yn cynnwys 3 SBCN. Mae Ffynnon Dawel yn y de wedi'i dynodi ar gyfer ei chymunedau prysgwydd a’i glaswelltir niwtral. Mae Dôl Cilfrew yn llawn rhywogaethau fel glaswellt y gweunydd a glaswelltir corsiog. I'r gogledd-ddwyrain mae Sarn Helen, clwstwr o 6 ardal wahanol ar ddwy ochr yr Heol Rufeinig. Maent yn cynnwys 10 cynefin nodedig gan gynnwys glaswelltiroedd asid ucheldirol, rhostir ucheldirol, gorgors a ffridd. Mae rhan o Barc Gwledig Graig Gwladus o fewn y ward. Mae’n safle coetirol pwysig. Mae ardaloedd o goetir hynafol lled-naturiol ledled y ward ac mae llawer o isafonydd i afonydd Dulais a Nedd. Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn prydlesu ac yn rheoli Coed Gawdir – pwll asidig o fewn safle coetir hynafol. Mae'r rhan fwyaf o'r ward o fewn B-Line. Mae Parc Gwledig Craig Gwladus yn cael ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth.

Mae afon Dulais a'i hisafonydd yn bwysig i ddyfrgwn, trochwyr, gleision y dorlan ac ystlumod sy'n chwilota. Mae gan laswelltiroedd y cymoedd amrywiaeth o blanhigion blodeuol gan gynnwys y bengaled, ytbysen y ddôl, tamaid y cythraul a'r llysyrlys. Mae corsydd a rhostiroedd ar dir uwch yn cynnwys grug a llusi duon bach ac maent yn darparu cynefin ar gyfer ymlusgiaid ac ysgyfarnogod brown.

Camau Gweithredu

  1. Mae Cyfeillion Craig Gwladus yn grŵp gwirfoddol gweithgar sy'n gofalu am Barc Gwledig Craig Gwladus. Gallwch gyfeirio pobl yn y ward sydd â diddordeb mewn natur at wirfoddoli gyda'r grŵp hwn.
  2. Cynnal cyflwr da rhostir a gweundir yr ucheldir yn Sarn Helen e.e. trwy gael gwared ar goed ifanc sbriws Sitca wrth iddynt adfywio
  3. Cynyddu ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt yn y ward e.e. trwy gynnal troeon bywyd gwyllt ar hyd afon Dulais