Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Blaengwrach a Gorllewin Glynnedd

Mae nentydd SoDdGA Cwm Gwrelych a Nant Llyn Fach wedi'u dynodi oherwydd eu nodweddion daearegol fel y dilyniant gorau o greigiau Westffalaidd ym Maes Glo De Cymru. Mae'r SoDdGA arall, Craig y Llyn (yn RhCT yn bennaf) wedi'i ddynodi ar gyfer ei ferddwr sy'n cefnogi planhigion dyfrol sy'n nodweddiadol o lynnoedd sy'n isel o ran maetholion a chymunedau planhigion sy'n gysylltiedig â sgrïau a chlogwyni'r ucheldir. Mae YNDGC yn rheoli Llyn Fach o fewn y SoDdGA. Mae nifer o SBCNau yn y ward. Mae Ardal Trin Dŵr Mwyngloddiau Resolfen wedi'i dynodi oherwydd ei choetir hynafol a'i brithwaith o gynefinoedd agored. Mae Glaswelltir Pyllau Benthyg Rheola yn ddôl iseldir sy'n gyfoethog o ran rhywogaethau. Mae Morfa Glas yn gymysgedd o laswelltiroedd sy'n llawn rhywogaethau. Sefydlwyd SBCN Selar ym 1994 i liniaru colli SoDdGA Fferm Selar i'r safle glo brig ac mae'n cynnwys glaswelltiroedd wedi'u trawsleoli – tir pori brwyn, asid heb ei wella a niwtral – ynghyd â glaswellt y gweunydd, rhostir a cheunentydd coediog llydan. Mae'n rhan o SBCN Lamb & Flag sydd wedi'i dynodi ar gyfer sawl math o gynefinoedd. Mae rhywfaint o'r ward mewn B-Line.

Mae SoDdGA Craig y Llyn yn cynnwys rhywogaethau mynyddig fel rhedynach Wilson, cnwp-fwsogl mawr a llus cochion. Mae Llyn Fach yn cynnwys bidoglys y dŵr – ei leoliad mwyaf deheuol ym Mhrydain. Yn ddiweddar darganfuwyd poblogaeth o lygod y dŵr yma. I ffwrdd o'r safleoedd gwarchodedig hyn, mae'r dyfrffyrdd yn bwysig i leision y dorlan, dyfrgwn ac ystlumod. Mae'r planhigfeydd yn gartref i adar fel y gylfin groes a’r pila gwyrdd.

Camau Gweithredu

  1. Mae'r Ymddiriedolaeth Natur yn rheoli Llyn Fach o fewn y SoDdGA ac weithiau mae angen cymorth gwirfoddolwyr yma.
  2. Anogwch bobl i ddysgu am fioamrywiaeth y planhigfeydd conwydd youtu.be/Omg7nn2H_0E
  3. Anogwch tirfeddianwyr i reoli tir mewn ffordd sy'n sensitif i natur. Efallai y bydd rhai am ymuno â'r Grŵp Dolydd lleol, cysylltwch â'r tîm i gael gwybod mwy.