Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gogledd Bryncoch

Tir fferm yn bennaf gyda pheth coetir hynafol lled-naturiol ac afon Clydach, a'i hisafonydd. Mae SBCN Fferm Bryn-coch yn frithwaith mawr o gynefinoedd yn union i'r gogledd o bentref Bryn-coch sy'n cynnwys coetir hynafol lled-naturiol, dolydd iseldir a glaswelltir corsiog. Mae ardal laswelltir yn cael ei rheoli fel rhan o Garu Gwenyn CNPT.  Mae rhan o'r ward hon o fewn B-Line.

Mae'r tir fferm yn darparu cynefin ar gyfer tylluanod gwynion. Gall y cymysgedd o gynefinoedd ucheldirol gynnal mamaliaid fel ysgyfarnogod brown, draenogod a moch daear. Mae dyffrynnoedd yr afon a'i hisafonydd yn safleoedd pwysig ar gyfer dyfrgwn, trochwyr ac ystlumod sy'n chwilota.

Camau Gweithredu

  1. Anogwch yr ysgolion i weithredu dros natur e.e. Ardaloedd Caru Gwenyn CNPT, bocsys adar, garddio bywyd gwyllt
  2. Mae rhywogaethau planhigion anfrodorol ymledol yn broblem yn y ward hon. Mae trefnu i gael gwared ar ffromlys neu gynyddu ymwybyddiaeth o sut i wneud hyn (mae'n hawdd iawn!) yn ffordd dda o helpu i fynd i'r afael â'r mater.
  3. Anogwch tirfeddianwyr i reoli tir mewn ffordd sy'n sensitif i natur. Efallai y bydd rhai am ymuno â'r Grŵp Dolydd lleol, cysylltwch â'r tîm i gael gwybod mwy.