Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Aberafan

Er ei bod yn drefol ac yn ddiwydiannol yn bennaf, mae'r ardal yn gallu cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt. Mae'r coridorau gwyrdd a grëwyd gan erddi, ymylon ffyrdd a thirlunio yn darparu cynefinoedd i lawer o adar a chreaduriaid di-asgwrn-cefn. Mae'r glaswelltiroedd o amgylch Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys fflora hardd fel tegeirianau’r wenynen. Mae Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN) Panasonic wedi'i ddynodi ar gyfer y brithwaith o gynefinoedd agored ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol gan gynnwys prysgwydd, glaswelltir niwtral, ffen, corsle a phyllau. Mae safleoedd Caru Gwenyn CNPT yn y ward yn cynnwys y caeau oddi ar Ffordd Baglan a'r tu allan i Lys y Seren. Mae'r ward o fewn B-Line.

Mae adar y to yn ffynnu yn y coridorau gwyrdd, gallwch eu gweld yn aml mewn heidiau mewn meysydd parcio archfarchnadoedd. Maent wedi dirywio'n sylweddol yn y DU ond ymddengys eu bod yn gwneud yn dda yn Aberafan. Mae toeon unedau diwydiannol yn ddewis amgen gwych i safleoedd nythu naturiol ar glogwyni ar gyfer sawl rhywogaeth o wylanod. Mae Gwylanod y Penwaig wedi dirywio yn eu hamrediad naturiol ond maent yn defnyddio’n toeon. Mae gwenyn prin fel y gardwenynen feinllais wedi'u cofnodi yn y ward.

Camau Gweithredu

  1. Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf
  2. Anogwch etholwyr wardiau i gymryd rhan yn 'Stryd y Draenog' i wella cysylltedd â'r cynefin i ddraenogod yn y ward
  3. Archwiliwch opsiynau ar gyfer isadeiledd gwyrdd ar adeiladau yn y ward e.e. toeon gwyrdd neu waliau byw