Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Baglan

Mae'r ward yn cynnwys 6 SBCN unigol. Mae pedwar yn safleoedd tir llwyd. Mae'r rhain yn digwydd pan fydd natur yn adennill tir a ddatblygwyd o'r blaen. Mae hyn wedi arwain at amodau unigryw ar gyfer pob safle, sy’n aml yn dynwared cynefinoedd naturiol fel twyni tywod. Mae Bae Baglan yn ehangder mawr o system twyni symudol naturiol a morfa heli eang iawn ar ben Moryd Nedd. Mae YNDGC yn rheoli llawer o'r ardal hon ar hyn o bryd. Maent hefyd yn berchen ar ddaear moch daear Baglan. Mae safleoedd eraill yn y ward yn cynnwys dyfrffyrdd a phocedi pwysig o SBCNau sy'n goetir hynafol lled-naturiol. Mae'r rhan fwyaf o'r ward o fewn B-Line. Mae sawl gwrych ac ymyl glaswellt yn cael eu rheoli er budd bioamrywiaeth dan gynllun Caru Gwenyn CNPT.

Ar y bryniau gwelir moch daear yn ymweld â gerddi’n aml. Mae llinosod yn bridio ar y cynefin prysgwydd ar y bryniau ac yn heidio i'r arfordir yn y gaeaf. Mae'r twyni’n gadarnle i furwyll arfor a cheir penigan y porfeydd yng nglaswelltir y Pwll Triongl. Mae’r ddau blanhigyn yn brin iawn. Mae'r ardal ddiwydiannol gyfan yn darparu safleoedd bridio ar gyfer y cornchwiglen, er bod y boblogaeth yma'n gostwng. Mae'r llain arfordirol yn ardal bwysig i beillwyr ac mae'n gartref i iâr fach yr haf brin y glesyn bach, y gardwenynen resog frown a’r gardwenynen feinllais. Mae'r foryd yn bwysig i‘r hebog tramor, y coegylfinir, telor Cetti, y gylfinir, y drudwen, bras y gors a’r dyfrgi.

Camau Gweithredu

  1. Mae gan Faglan nifer o laswelltiroedd sy'n cael eu rheoli fel dolydd Caru Gwenyn CNPT ac os caiff rhagor eu sefydlu, gallai Baglan ddod yn barth dolydd Caru Gwenyn CNPT cyntaf yn CNPT. Siaradwch â'r tîm i'n helpu i ddod o hyd i safleoedd.
  2. Mae ardal ddiwydiannol Baglan yn un o'r safleoedd pwysicaf ar gyfer natur yn CNPT. Mae cadw'r amrywiaeth hwn yn bwysig iawn. Mae cynyddu ymwybyddiaeth o hyn ymysg busnesau yn y parc yn lle da i ddechrau.