Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gorllewin Traethmelyn

Er ei fod yn eithaf trefol, mae gan Orllewin Traethmelyn lawer o gynefinoedd da. Mae llawer o ymylon glaswellt sydd, yn y gwanwyn, yn cael eu gorchuddio â llygaid y dydd a dant y llew sy'n cynnig bwyd cynnar ar gyfer brenhines y gwenyn sy'n datblygu. Ar yr arfordir mae pen dwyreiniol SBCN Bae Baglan yn y ward. Mae SBCN yr estynwlad wedi'i ddynodi'n ardal o dwyn sy’n weddill gyda phoblogaeth dda o nadroedd defaid. Dyma ddechrau gweddillion system twyni symudol a morfa heli. Mae'r pen hwn o'r traeth yn dechrau dod yn fwy naturiol. Mae digon o botensial i reoli ymylon ffyrdd ar gyfer blodau gwyllt dan gynllun Caru Gwenyn CNPT, sydd wrthi'n cael ei ymchwilio. Mae'r ward gyfan mewn B-Line.

Rydym yn rhannu’n hardaloedd trefol â llawer o rywogaethau. Mae'r rhain yn cynnwys adar y to sydd wedi dirywio'n fawr yn y DU. Gall ystlumod fel y corystlum cyffredin ddefnyddio tai hefyd. Maent yn hoffi clwydo mewn bylchau bach fel o dan deils neu y tu ôl i wynebfyrddau. Drwy chwilota am froc môr yma gallwch ddod o hyd i bob math o bethau, o byrsiau'r fôr-forwyn (masglau siarc a chathod môr) i sglefrod môr a sêr môr. Mae llinell y llanw'n lle gwych i wylio pibydd y tywod yn sgrialu o gwmpas. Yn y gaeaf, gellir gweld niferoedd o wyachod mawr copog sydd o bwys cenedlaethol yn y môr. Ymhlith y planhigion twyni arbenigol mae tagaradr, murwyll arfor, llaethlys y môr a chelyn y môr. Weithiau gellir gweld llamhidyddion allan yn y môr.

Camau Gweithredu

  1. Nodwch gyfleoedd ar gyfer isadeiledd gwyrdd yn y ward e.e. toeon gwyrdd, rhagor o goed ar y stryd a/neu waliau byw
  2. Anogwch etholwyr wardiau i gymryd rhan yn 'Stryd y Draenog' i wella cysylltedd â'r cynefin i ddraenogod yn y ward
  3. Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf