Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cimla a Phelenna

Mae sawl SBCN wedi'u dynodi ar gyfer eu nodweddion glaswelltir corsiog ac mae rhan o SBCN y Waun yn y ward, sydd wedi'i dynodi ar gyfer ei brithwaith o gynefinoedd Mae hanes diwydiannol y ward hon wedi gadael rhai manteision annisgwyl i fioamrywiaeth. Mae Gwaith Trin Dŵr Mwyngloddiau Tonmawr yn SBCN ar gyfer ei gymunedau prysgwydd, rhostir iseldir, corsleoedd a'i boblogaeth o wiberod. Mae SBCN Cwm Blaenpelenna yn hen safle pwll glo sydd wedi adfywio'n naturiol ac mae'n gynefin pwysig i greaduriaid di-asgwrn-cefn. Mae SBCN Tyle'r Waun yn enghraifft o orgors. Mae rhai o'r ymylon ffyrdd ar y B4287 yn cael eu rheoli er eu budd bioamrywiaeth. Prynwyd Fferm Brynau yn ddiweddar gan Goed Cadw a fydd yn adfer ac yn creu coetiroedd. Mae B-Line yn cwmpasu pen Cimla o'r ward.

Mae tylluanod gwynion yn bridio yn yr ardal. Mae ardaloedd trefol y ward wedi'u cysylltu'n dda â gerddi a choed stryd mawr. Mae'r rhain yn darparu cynefin ar gyfer adar y to a rhywogaeth ystlum y Corystlum. Mae SBCN Preswylfa Dingle yn darparu coridor gwyrdd gydag arddangosfa o glychau'r gog sy'n blodeuo yn ystod y gwanwyn. Mae'r tir ffermio agored yn gartref i ysgyfarnogod brown, llwynogod, moch daear,  barcutiaid coch a chigfrain a gellir gweld bwncathod yn hedfan uwchben yn aml. Mae afon Pelenna a'i hisafonydd yn bwysig i ddyfrgwn, trochwyr ac ystlumod sy'n chwilota. Mae'r planhigfeydd yn gartref i adar fel y gylfin groes a’r pila gwyrdd. Mae'r ardaloedd sydd wedi'u clirio bellach yn gartref i boblogaeth o droellwyr mawr sydd o bwys cenedlaethol. Gellir gweld ysgyfarnogod brown, draenogod ac ehedyddion ar y ffermdir. Mae'r ardal yn arbennig o bwysig ar gyfer gwiberod. Mae gan safleoedd sbwriel pyllau glo greaduriaid di-asgwrn-cefn sy'n brin yn genedlaethol fel y fritheg berlog fach. Mae gan yr orgors blanhigion arbenigol fel plu'r gweunydd cyffredin, grug a llusi duon bach.

Camau Gweithredu

  1. Mae Cyfeillion Parc Gwledig y Gnoll yn grŵp gwirfoddol gweithgar sy'n gofalu am Barc Gwledig y Gnoll. Gallwch gyfeirio pobl yn y ward sydd â diddordeb mewn natur at wirfoddoli gyda'r grŵp hwn.
  2. Yn anffodus, mae'r poblogaethau gwiberod yn y ward hon yn cael eu herlid ar brydiau. Helpwch i gynyddu ymwybyddiaeth o'r angen i barchu a diogelu'r creaduriaid godidog hyn, a fydd ond yn brathu pan fyddant dan fygythiad.
  3. Cynyddwch ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth anhygoel o gynefinoedd a rhywogaethau y gall y ward ymfalchïo ynddynt drwy deithiau cerdded a chyfryngau cymdeithasol.