Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad Preifatrwydd

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot drefn Diogelu Data ar waith er mwyn goruchwylio prosesu eich data personol yn effeithiol ac yn ddiogel: yn unol â gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).

Drwy ddarparu eich gwybodaeth bersonol i'r cyngor (gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir i ni drwy gymwysiadau gwasanaeth yn y wefan hon (www.npt.gov.uk)) rydych yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (y cyngor) yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol a ddarperir i ni.

Pam mae angen eich data arnom?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan y cyngor ar gyfer un neu fwy o'r dibenion canlynol:-

  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer perfformiad contract gyda'ch hun neu er mwyn cymryd camau, ar eich cais, cyn ymrwymo i gontract o'r fath;
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn i'r cyngor gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol;
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn perfformio tasg er budd y cyhoedd gan y cyngor neu fel rhan o arfer awdurdod swyddogol sydd gan y cyngor;
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol at ddibenion buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y cyngor neu drydydd parti.

Ni fydd y cyngor yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall heblaw am y rheiny a nodir uchod.

Sylwer bod yr holl gymwysiadau gwasanaeth ar y wefan hon wedi'u dylunio i gasglu data personol gennych chi, gyda'r bwriad o ddarparu gwasanaeth (neu wasanaethau) i chi neu alluogi'r cyngor i gynnal ei swyddogaethau cyhoeddus a/neu fusnes cyfreithlon. Felly, mae pob cymhwysiad ar y wefan yn darparu manylion o ran diben (neu ddibenion) defnyddio eich gwybodaeth. Mae pob cymhwysiad gwasanaeth hefyd yn darparu manylion sail gyfreithiol berthnasol y GDPR y mae'r cyngor yn ddibynnol arni (er mwyn prosesu eich data personol yn gyfreithlon), ar ffurf Hysbysiad Preifatrwydd penodol ar gyfer pob cymhwysiad penodol.

Beth rydym yn ei wneud ag ef?

Prosesir yr holl ddata personol rydym yn ei brosesu gan ein staff yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion lletya TG a chynnal a chadw, cedwir yr wybodaeth hon ar weinyddion yn yr Undeb Ewropeaidd ac ni fydd yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag adrannau'r cyngor hyd y caniateir hynny gan y gyfraith ac ni fyddwn yn rhannu'ch data â thrydydd partïon oni bai fod rhaid i ni neu fod gennym ganiatâd i wneud hynny yn ôl y gyfraith (e.e. o dan y GDPR, y DPA neu unrhyw ddeddfwriaeth arall).

Byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel â darparwyr gwasanaethau sy'n cyflawni cyfrifoldebau ar ran y cyngor, ond byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth o'r fath yn cael ei diogelu drwy Drefniadau Prosesu Data sy'n cydymffurfio â'r GDPR.

Am faint o amser rydym yn cadw'r data?

Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw gan y cyngor yn unol â gofynion a nodwyd mewn deddfwriaeth ac, yn gyffredinol (yn amodol ar unrhyw ofynion cyfreithiol i'r gwrthwyneb), am o leiaf 6 blynedd. Er hynny, lle rydych wedi darparu gwybodaeth at ddibenion marchnata, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw gennym tan eich bod yn rhoi gwybod i ni nad ydych am dderbyn yr wybodaeth hon mwyach.

Am fwy o wybodaeth am ein cyfnodau cadw, cyfeiriwch at yr Hysbysiad Preifatrwydd penodol sy'n berthnasol i'r cymhwysiad gwasanaeth penodol rydych yn ei ddefnyddio ar ein gwefan.

Beth yw eich hawliau chi?

O dan y GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'ch data personol:

  • Hawl i gael mynediad at eich data personol a gedwir gan y cyngor;
  • Hawl i gywiro unrhyw wallau yn eich data personol;
  • Hawl i ddileu data personol a gedwir gan y cyngor (mewn amgylchiadau penodol);
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol (mewn amgylchiadau penodol);
  • Hawl i wrthwynebu i'r cyngor ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol;
  • Hawl i drosglwyddo data (mewn amgylchiadau penodol).

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr hawliau uchod o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth; gellir hefyd gael gwybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (www.ico.org.uk).

Os ydych am wrthwynebu i'r cyngor ddefnyddio'r wybodaeth hon neu am ddiwygio unrhyw wybodaeth, gallwch hysbysu'r cyngor ar unrhyw adeg, a fydd yn ystyried unrhyw gais, ond sylwer, gall hyn gael effaith ar natur y gwasanaethau y bydd y cyngor yn eu darparu i chi.

Hefyd, sylwer bod peth gwybodaeth bersonol y mae'n rhaid i'r cyngor ei chadw amdanoch o ganlyniad i'n gofynion cyfreithiol ac os ydych yn methu darparu'r wybodaeth hon neu'n methu darparu gwybodaeth gywir gallech wynebu achos cyfreithiol.

Os ar unrhyw adeg y credwch fod yr wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu amdanoch chi'n anghywir, gallwch ofyn i weld yr wybodaeth hon ac iddi gael ei chywiro neu ei dileu. Os ydych am gwyno am sut rydym wedi trafod eich data personol, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Mae'n bosib cysylltu â'n Swyddog Diogelu Data yn y cyfeiriad canlynol: Cyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ

Os ydych wedi cyflwyno cais a/neu gŵyn i'r cyngor ac nid ydych yn fodlon ar ein hymateb, neu rydych yn credu ein bod yn prosesu eich data personol mewn modd nad yw'n cydymffurfio â'r gyfraith, gallwch gyflwyno cwyn yn uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar ei gwefan: (www.ico.org.uk).

  • Datganiad Preifatrwydd (DOCX 16 KB)

    i.Id: 1470
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Datganiad Preifatrwydd
    mSize: 16 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/twflisca/datganiad-preifatrwydd.docx