Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dyffryn

O ran cynefinoedd, mae'r ward yn un o'n rhai mwyaf amrywiol. Yn y de mae'n cynnwys SBCN Moryd Nedd sy'n gors bori arfordirol ac yn orlifdir. Mae'r ardal hon yn dal dŵr pan fydd yr afon yn gorlifo ac mae'r llanw'n uchel gan warchod y tir o'i gwmpas. Wrth symud i'r gogledd mae'r dirwedd hanesyddol yn cynnwys olion Mynachlog Nedd a'r Gwaith Haearn. Heibio hyn mae'r tir yn codi'n sydyn i'r gorllewin gyda llethr serth, goediog y dyffryn yn arwain at frigiadau creigiog a thir ffermio gwastad. Mae sawl safle'n cael eu rheoli ar gyfer eu bioamrywiaeth o dan gynllun Caru Gwenyn CNPT, yn enwedig cylchfan Saltings ac ymylon ffyrdd o amgylch Longford. Coed Cadw sy'n berchen ar goedwigoedd Dyffryn a Coed Maesmelin ac yn eu rheoli.

Daeth yr ardal yn enwog yn ddiweddar pan ddarganfuwyd  y chwilen ddaear las mewn sied yn yr ardd. Mae arolygon pellach wedi cadarnhau bod y coetiroedd yn Nyffryn yn gadarnle i'r rhywogaeth, a hyd yma dyma'r unig safle yng Nghymru lle mae wedi'i ddarganfod. Fel rhan o'r gwaith i godi ysgol newydd ar hen safle Ysgol Gynradd Abbey, canfuwyd poblogaeth dda o fadfallod. Mae'r rhain wedi'u symud i dderbynle ond mae'n debyg bod gan yr ardal gyfagos boblogaeth ragorol. I lawr ar y morfa heli gellir gweld adar fel y crëyr bach a’r gornchwiglen. Mae'r llwyfandir yn addas ar gyfer yr ysgyfarnog frown a'r ehedydd.

Camau Gweithredu

  1. Anogwch bobl i chwilio am y Chwilen Ddaear Las prin yn eu gerddi a rhoi gwybod i ni os ydynt yn eu gweld.
  2. Mae gan Coed Cadw grŵp gwirfoddol sy'n gwneud gwaith yng Nghoed Maesmelin. Dywedwch wrth etholwyr sydd â diddordeb i ymuno â'r grŵp.
  3. Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward