Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gogledd Coedffranc

Mae'r ward yn dir fferm weithredol yn bennaf gyda llain drefol ddwys ar hyd yr ymyl deheuol. Mae olion gwasgaredig o goetir lled-naturiol hynafol, sy'n ymwneud â safle sy'n cael ei goedio'n barhaus â choed brodorol ers 1600AD. Mae'r cymysgedd hwn o gynefinoedd yn caniatáu i rywogaethau symud drwy'r ward ac i'r dirwedd ehangach.

Mae'r cymysgedd o goetir a thir fferm yn gynefin delfrydol ar gyfer rhywogaethau fel moch daear ac amrywiaeth eang o adar gan gynnwys aderyn y to a'r ddrudwen, dwy rywogaeth sydd wedi dirywio'n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf.

Camau Gweithredu

  1. Cafwyd hyd i’r chwilen ddaear las brin yn ward gyfagos Dyffryn – anogwch aelodau’r ward i gadw llygad am y chwilen hon gan mai dyma’r unig boblogaeth sydd i’w chael yng Nghymru!
  2. Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf
  3. Anogwch etholwyr wardiau I gymrydrhanyn 'Strydy Draenog' I wella cysylltedd â'r cynefin I ddraenogod yn y war