Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

De Bryncoch

Mae'r ward hynod drefol hon yn cadw coridorau gwyrdd trwy ffyrdd â choed ar eu hyd a gerddi. Ar hyd de-ddwyrain y ward mae 3 SBCN gwlyptir. Mae camlas Tennant wedi'i chreu gan ddyn ac mae'n cynnig cynefin dyfrol da. Mae Moryd Nedd a Chorsle’r Heol Rufeinig yn safleoedd gwlyptir pwysig sy'n helpu i leihau llifogydd drwy weithredu fel ardaloedd naturiol i'r dŵr grynhoi yn ystod llifogydd. Mae'r clawdd sy'n llawn rhywogaethau yn Heol Taillwyd yn cael ei reoli am ei bwysigrwydd bioamrywiaeth. Caiff Caeau Chwarae Pen-y-Wern eu rheoli ar gyfer blodau gwyllt dan gynllun Caru Gwenyn CNPT. Mae rhywfaint o'r ward hon o fewn B-Line.

Mae'r ardaloedd trefol sydd wedi'u cysylltu'n dda yn darparu coridorau cynefin ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau adar ac ystlumod. Mae camlas Tennant yn cynnig cynefin ar gyfer gweision y neidr, nadroedd y glaswellt ac adar nythu. Mae afon Nedd yn bwysig i ddyfrgwn, trochwyr a siglennod llwyd.

Camau Gweithredu

  1. Helpwch etholwyr i ddarganfod blodau gwyllt a phryfed peillio ar Gaeau Chwarae Pen-y-Wern ac mewn safleoedd glaswelltir eraill o amgylch y ward.
  2. Anogwch yr ysgolion a'r coleg i weithredu dros natur e.e. rheoli glaswelltiroedd fel dolydd, gosod blychau adar ac ystlumod ac addysgu disgyblion am natur
  3. Anogwch etholwyr wardiau i gymryd rhan yn 'Stryd y Draenog' i wella cysylltedd â'r cynefin i ddraenogod yn y ward