Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Bryn a Chwmafan

Mae Tomen Bryn wedi'i ddynodi'n Warchodfa Natur Leol (GNL) Mae'r hen domen lo hon bellach yn cynnwys glaswelltir sych sy'n gyfoeth o rywogaethau gyda chlwstwr mawr o eithin.  Mae'r cynefinoedd sydd wedi ffurfio ar sbwriel pyllau glo wedi'u nodi'n ddiweddar fel rhai sy'n arbennig o dda i fywyd gwyllt, gan gynnwys bod yn gartref i'r miltroed Turdulisoma cf turdulorum y canfuwyd ei fod yn newydd i wyddoniaeth yn 2017. Mae prif ddyfrffyrdd yn cynnwys yr afonydd Afan a Ffrwd Wyllt. Ceir nifer o SBCNau yn y ward, gan gynnwys Coridor Gwyrdd Cwmafan. Mae nifer o ardaloedd glaswelltir yng Nghwmafan yn cael eu rheoli dan gynllun Garu Gwenyn CNPT, fel The Rolling Mill a Phen-y-Banc.

Mae'r eithin yn Nhomen Bryn yn wych i adar bridio fel clochdar y cerrig a llinos. Mae glaswelltiroedd yn cynnal iâr fach yr haf y fritheg werdd a cheir poblogaeth enfawr o degeirianau’r wenynen yn Nhomen Bryn . Gall y cymysgedd o gynefinoedd ucheldirol gynnal mamaliaid fel ysgyfarnogod brown, draenogod a moch daear. Mae dyffrynnoedd yr afon yn safleoedd pwysig ar gyfer dyfrgwn, trochwyr ac ystlumod sy'n chwilota. Mae'r safleoedd sbwriel pyllau glo’n lleoedd gwych i chwilio am greaduriaid di-asgwrn-cefn anarferol.

Camau Gweithredu

  1. Anogwch bobl yn y ward i wirfoddoli gyda Gwirfoddolwyr Amgylchedd Afan neu Grŵp Gweithredu Preswylwyr Bryn i helpu i reoli safleoedd bywyd gwyllt pwysig yn y ward.
  2. Mae gan afon Afan broblemau gyda rhywogaethau planhigion estron goresgynnol y gallwch helpu i fynd i'r afael â hwy drwy drefnu i gael gwared ar ffromlys.
  3. Chwiliwch am leoliadau Caru Gwenyn CNPT o amgylch y ward h.y. safleoedd lle byddai blodau'n tyfu pe na bai'r gwair yn cael ei dorri ar gyfer yr haf