Troseddau ceir
Gellir atal y rhan fwyaf o droseddau yn erbyn ceir, beiciau modur a beiciau, gan gynnwys dwyn a dwyn ohonynt, yn hawdd drwy gymryd camau syml i atal troseddu.
Ceir
- Clowch y drysau a chaewch y ffenestri pan fyddwch yn gadael eich car am unrhyw gyfnod o amser.
- Parciwch mewn lleoliad diogel lle gellir cadw golwg dda ar eich cerbyd.
- Sicrhewch nad oes unrhyw beth yn cael ei arddangos - bydd hyd yn oed siaced neu fag yn darged deniadol i ladron.
- Os gallwch, tynnwch eich stereo - peidiwch byth â gadael gwrthrychau electronig drud fel ffonau symudol yn y golwg.
- Tynnwch eich dyfais llywio lloeren o'ch car bob amser a sicrhewch nad oes unrhyw farciau o'r sugnwr ar y sgrîn wynt.
- Peidiwch byth â chadw’ch dogfennau cerbyd yn y car.
- Gall dyfais atal symud wedi'i chymeradwyo gan Thatcham neu glo ar gyfer yr olwyn lywio helpu i sicrhau cerbydau hŷn.
- Meddyliwch am ysgythru rhif cofrestru'r cerbyd ar y cydrannau a'r ffenestri, a gwnewch nodyn o'i rif siasi.
- Cadwch allweddi’r car mewn lle diogel, hyd yn oed yn eich tŷ, fel na all rhywun sy'n torri i mewn ddwyn eich car hefyd.
Beiciau modur / Beiciau
- Dylech bob amser gloi eich beic, a gosod ei larwm os oes ganddo un.
- Wrth adael eich beic am beth amser, ceisiwch ei gloi wrth rywbeth diogel. Gartref, gallwch osod atodiadau arbennig i gloi eich beic iddynt.
- Defnyddiwch orchudd beic modur.
- Trefnwch fod rhif adnabod y cerbyd yn cael ei farcio ar y cerbyd