Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Arian ar gyfer prosiectau lleol

Yn 2001 derbyniodd aelodau etholedig trwy Grwp Datblygu Polisi Troseddu ac Anhrefn, fel yr oedd ar y pryd, gyllideb ar gyfer prosiectau i gefnogi'r Cynlluniau Gweithredu Troseddu ac Anhrefn. Rhannwyd y gronfa'n ddwy, er mwyn darparu cyfle i amrywiaeth o grwpiau sicrhau arian i gyflwyno prosiectau troseddu ac anhrefn.

Mae'r gronfa gyntaf ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â phobl ifanc ac yn cynnig hyd at £500 y cais. Gellir cyflwyno ceisiadau gan swyddogion cymunedol yr heddlu neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â sefydliadau sydd wedi'u lleoli yn y gymuned. Rhaid i'r prosiectau annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. Prif amcanion y gronfa yw lleihau troseddau lleol, cynnwys pobl ifanc yn y gymuned a'u hatal rhag mynd i drafferthion.

Mae'r ail gronfa yn cael ei chefnogi gan sefydliadau gwirfoddol, a all wneud cais am hyd at £1000 y prosiect. Y prif ffocws yma yw cychwyn prosiectau ymarferol a lleol i gynorthwyo'r Cynlluniau Gweithredu Troseddau ac Anhrefn.

Mae gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus adrodd yn ôl ar gynnydd y prosiect, er mwyn monitro a gwerthuso dyraniad yr arian.

Os hoffech fanylion pellach neu ffurflen gais, cysylltwch â'r Tîm Troseddu ac Anhrefn ar 01639 889163 neu ebost:communitysafety@npt.gov.uk. Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen gais a meini prawf trwy glicio ar y cysylltiadau isod.