Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Troseddau ceir

Gellir atal y rhan fwyaf o droseddau yn erbyn ceir, beiciau modur a beiciau, gan gynnwys dwyn a dwyn ohonynt, yn hawdd drwy gymryd camau syml i atal troseddu.

Ceir

  • Clowch y drysau a chaewch y ffenestri pan fyddwch yn gadael eich car am unrhyw gyfnod o amser.
  • Parciwch mewn lleoliad diogel lle gellir cadw golwg dda ar eich cerbyd.
  • Sicrhewch nad oes unrhyw beth yn cael ei arddangos - bydd hyd yn oed siaced neu fag yn darged deniadol i ladron.
  • Os gallwch, tynnwch eich stereo - peidiwch byth â gadael gwrthrychau electronig drud fel ffonau symudol yn y golwg.
  • Tynnwch eich dyfais llywio lloeren o'ch car bob amser a sicrhewch nad oes unrhyw farciau o'r sugnwr ar y sgrîn wynt.
  • Peidiwch byth â chadw’ch dogfennau cerbyd yn y car. 
  • Gall dyfais atal symud wedi'i chymeradwyo gan Thatcham neu glo ar gyfer yr olwyn lywio helpu i sicrhau cerbydau hŷn.
  • Meddyliwch am ysgythru rhif cofrestru'r cerbyd ar y cydrannau a'r ffenestri, a gwnewch nodyn o'i rif siasi.
  • Cadwch allweddi’r car mewn lle diogel, hyd yn oed yn eich tŷ, fel na all rhywun sy'n torri i mewn ddwyn eich car hefyd.

Beiciau modur / Beiciau

  • Dylech bob amser gloi eich beic, a gosod ei larwm os oes ganddo un. 
  • Wrth adael eich beic am beth amser, ceisiwch ei gloi wrth rywbeth diogel. Gartref, gallwch osod atodiadau arbennig i gloi eich beic iddynt.
  • Defnyddiwch orchudd beic modur.
  • Trefnwch fod rhif adnabod y cerbyd yn cael ei farcio ar y cerbyd