Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Rydym yn cymryd pob cwyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol o ddifrif. Ceisiwn weithredu pryd bynnag y gallwn, cyn belled â bod cyfiawnhad dros hynny.

Beth ym ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Unrhyw ymddygiad sydd wedi achosi, neu sy’n debygol o achosi, AflonyddwchDychryn neu Ofid i un neu fwy o bobl nad ydynt yn perthyn i'r un aelwyd.

Mae sawl math o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan amrywio o niwsans ysgafn i aflonyddwch difrifol.  Gall niweidio ansawdd bywyd pobl ac ymyrryd yn eu gallu i defyddio a mwynhau eu cartref neu eu cymuned. 

Mae gan bawb yr hawl i fyw mewn amgylchedd lle nad oes ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dyma rai enghreifftia (nid rhestr gyflawn yw hon):

  • Grwpiau meddw neu swnllyd
  • Aflonddu neu frawychu
  • Yfed yn y stryd
  • Fandaliaeth a/neu graffiti/sbwriel
  • Taflu pethau
  • Niwsans sy'n gysylltiedig â chyffuriau
  • Niwsans sŵn
  • Ymddygiad hiliol neu homoffobig
  • Ymddygiad ymosodol neu fygythiol
  • Niwsans sy’n gysylltiedig â cherbydau
  • Puteindra/gweithredoedd rhywiol

Rydym yn cymrhyd pob cwyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol o ddifrif.  Ein nod yw gweithredu ble bynnag y gallwn, ar yr amod bod modd cyfiawnhau hyn.

Yr hyn NAD yw'n cael ei ystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Dyma rai enghreifftiau o ymddygiad na fyddai’n cael ei ystyried yn wrthgymdeithasol:

  • Plant yn chwarae
  • Gwahaniaethau mewn ffyrdd personol o fyw
  • Materion "unwaith yn unig" oni bai eu bod yn arbennig o ddifrifol 
  • Synau byw arferol megis agor a chau drysau a fflysio toiledau
  • Parcio difeddwl fel parcio ar y palmant a rhwystro cerbydau
Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pob sefyllfa, ond mae’n rhoi syniad o sefyllfaeodd lle na fyddem yn gweithredu ond lle gallwn gynnig cyngor ac arweiniad.

Byddwn ni'n ceisio esbonio os na allwn ymyrryd mewn achos.  Weithiau byddwn ni'n eich cyfeirio at asiantaethau / addrannau eraill a allai eich help.

Pa gamau gweithredu gall Partneriaet Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel eu cymryd yn erbyn unigolion sy'n gyfrifol am ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn fy nghymdogaeth?

Gan ddibynnu ar oedran yr unigolyn (boed yn berson ifanc neu'n oedolyn) a nature ac amlder ei ymddygiad gwrthgymdeithasol, gall Parneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel:

  • Anfon llythyrau rthybudd at yr unigolyn
  • Gwithio gyda gwasaneithau cefnogi i ymgysylltu â'r unigolyn er mwyn ceisio datrys problemau a allai fod wrth wraidd ei ymddygiad 
  • Sefydul Contractau Ymddygiad Derbyniol (ABC) gyda’r unioglyn

Neu mewn achoision eithanfol a / neu barhaus, gallwn:

  • Weithio gyda landlordiaid preifat
  • Chwilio am atebion eraill megis gorchmynion troi allan pan fo'r person yn denant lanlord cymdeithasol cofrestredig  
  • Gwneud cais i’r llysoedd am Orchymyn Ynddygiad Gwrthfymdeithasol (ASBO)
  • Neu ddefnyddio unrhyw ddeddfwriaeth briodol

Beth gallwch chi ei wneud

Ceisiwch ddatrys problemau'n gynnar

Gellir datrys llawer o broblemau rhwg cymdogion trwy siarad a dod i gytuneb.  weithiau nid yw pobl yn sylweddoli eu bod yn creu niwsans.  Os nad yw pryder yn cynnwys bygythiadau neu drais difrifol, efallai'r peth gorau i chi fyddai trafod y mater ymhellach â'ch cymydog cyn mynd ag ef ymhellach.

Ni fyddem yn eich cynghori i wneud hyn dim oni bai eich bod yn hyderus y gallwch ddatrys y broblem mewn fforedd ddymunol.  Cofiwch fod eich diogelwch chi yn hollbwysig ac ni fyddem yn argymu i chi drafod problem ag unrhyw un y gwyddys ei fod yn  dreisgar neu’n ymosodol.              

Efallai bydd i ni gynnig gwasanaeth cyfryngu.

Ni all y barthneriaeth gymryd camau gweithredu ynglŷn â phroblemau oni bai ei bod yn cael gwybod amdanynt.  Mae'n bwysig i chi roi gwybod am ddigwyddiadau trwy ffonio 101 (gweler isod am fwy o fanylion).  rydym yn sgrinio pob galwad am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac felly gallwn fynd ag achosion ymhellach.

Rydym yn dibynnu ar dystiolaeth y gallwch chi a'n hasiantaethau partner ei chyflwyno a fydd yn ein galluogi i fynd ymhellach ag achosion.

Sut i roi gwybod am broblem?

Ffoniwch yr heddlu ar 101 i roi gwybob am ddigwyddiadau nad oes angen ymateb brys arnynt.

Mwen argyfwng, ffoniwch 999.

Dylid rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy ffonio 101, sef y rhif ffôn uniongyrchol i'r heddlu nad yw ar gyfer argyfynau. 

Os hoffech chi gyngor neu arweiniad ar unrhyw agwedd ar ymddygiad gwrthgymdeith asol, gallwch siarad yn uniongyrchol ag un o'r tîm yn yr Uned Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) trwy ffonio 01639 889709 yn ystod oriau swyddfa nau gallwch adael neges a bydd rhywun yn cysylltu â chi yn ystod oriau swyddfa.

Gallwch e-bostio asb@npt.gov.uk

Beth yw'r ymateb y gallwch chi ei ddisgwyl?

Mae pob adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol ay'n cael ei wneud trwy ffonio 101 yn cael flaenoriaethu yn ôl anfen ac yn cael ei sgrinio gan yr Uned YG yn ddiweddarach.

Yna Mae'r wybodaeth hon cael ei chadw ar gronfa ddata gyfrinachol ar gyfer monitro a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu ac asiantaethau eraill, ond NI fyddwn yn datgelu eich manylion personal i unrhyw un y tu allan i Bartneriaeth Castell-nedd Port Talbot mwy Diogel heb eich caniatâd.

Os ydych yn cysylltu'n uniongyrchol â'r UNED YG trwy e-bost, byddwch yn derbyn neges gydnabyddiaeth o fewn 5 niwrnod gwaith, ond fel arfer o fewn 24 awr.

SYLWER NA fyddwn yn rhoi eich manylion personol i unrhyw aelod o’r cyhoedd.

Sbardun Cymunedol

Mae'r Sbardun Cymunedol yn caniatáu i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, sydd wedi adrodd am ddigwyddiadau i un neu fwy o asiantaethau’n flaenorol, ofyn i'w hachos gael ei adolygu pan fônt yn teimlo nad yw'r camau gweithredu a gymerwyd wedi bod yn ddigonol.

Bydd rhoi'r Sbardun Cymunedol ar waith yn dod ag asiantaethau perthnasol ynghyd i rannu gwybodaeth, adolygu'r camau gweithredu a gymerwyd a cheisio dod o hyd i ateb a fydd, gobeithio, yn atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto. At ddibenion y Sbardun Cymunedol, diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel 'ymddygiad sy'n peri aflonyddwch, braw neu ofid i bobl nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd'.

Pwy sy'n gallu defnyddio'r Sbardun Cymunedol?

  • Dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Rhywun sy'n cynrychioli dioddefwr fel gofalwr, cynghorydd neu aelod o'r teulu. Rhaid cael caniatâd gan y dioddefwr cyn cyflwyno'r cais.
  • Cymunedau neu fusnesau.

Os nad ydych wedi adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r blaen:

Os ydych wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ond heb ddweud wrth unrhyw un am y digwyddiadau, ni fyddwch yn gymwys i roi'r sbardun ar waith.

"Gweithio gyda'n gilydd i wneud ein cymunedau yn lleoedd mwy diogel i fyw a gweithio ynddynt"

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn