Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

PREVENT

Nod Prevent yw lleihau terfysgaeth drwy atal pobl rhag dod yn derfysgwyr a chefnogi terfysgaeth.  Mae Castell-nedd Port Talbot wedi sefydlu Panel 'Channel', sef panel amlasiantaethol lleol sy'n cyfarfod i drafod atgyfeiriadau pobl sy'n agored i niwed sydd mewn perygl o gael eu denu i derfysgaeth.

Beth mae Channel yn ei wneud?

Mae Panel Channel yn ceisio diogelu unigolion a allai fod yn agored i gael eu radicaleiddio fel nad ydynt mewn perygl o gael eu denu i fod yn rhan o weithgarwch sy'n gysylltiedig â therfysgaeth.

Sut mae Channel yn gweithio?

Mae proses Channel yn nodi'r rheini sydd fwyaf tebygol o gael eu radicaleiddio ac yn eu cyfeirio drwy'r heddlu neu'r awdurdod lleol at Banel Channel a fydd yn ystyried y ffordd orau o gefnogi pa mor agored i niwed y maent drwy becyn cymorth wedi'i deilwra i'w hanghenion. Mae'r cymorth yn cael ei fonitro a'i adolygu gan Banel Channel.

Pa ffactorau all roi pobl mewn perygl?

Nid oes un ffordd o nodi pwy sy'n debygol o fod yn agored i niwed fel hyn. Gall ffactorau gynnwys;

  • pwysau gan gyfoedion
  • dylanwad gan bobl eraill neu'r rhyngrwyd
  • tensiynau teuluol
  • troseddau hiliol/casineb
  • diffyg hunan-barch neu hunaniaeth
  • achwyniadau personol neu wleidyddol. 

Sut ydw i'n gwneud atgyfeiriad i Channel?

Caiff atgyfeiriadau i Banel Channel eu cyd-drefnu gan yr heddlu ond gallant ddod o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd.

Os nad oes bygythiad uniongyrchol

Gall aelodau o'r cyhoedd adrodd i 101

Gall sefydliadau statudol adrodd i'r arweinydd Diogelu yn eu cyfarwyddiaeth/tîm

Mewn achosion o fygythiad uniongyrchol

Os ydych wedi gweld person yn ymddwyn yn amheus neu os ydych yn gweld cerbyd, pecyn neu fag heb neb yn gofalu amdano, symudwch o'r man hwnnw a ffoniwch 999

Beth mae Llywodraeth y DU yn ei wneud?

Mae Adran 29 Deddf Gwrth-Derfysgaeth a Diogelwch 2015 yn gosod dyletswydd ar rai awdurdodau lleol i roi ystyriaeth briodol i'r angen i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth.

Mae tri amcan penodol i'r strategaeth Prevent a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn 2011:

  1. Ymateb i her ideolegol terfysgaeth a'r bygythiad a wynebwn ffurflen y rhai sy'n ei hyrwyddo
  2. Atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth a sicrhau eu bod yn derbyn cyngor a chefnogaeth briodol
  3. Gweithio gyda sectorau a sefydliadau lle mae perygl o radicaleiddio y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef

Dolenni cysylltiedig

I gael gwybodaeth a chyngor gallwch gysylltu â Chydlynydd PREVENT Castell-nedd Port Talbot ar Channel@npt.gov.uk