Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Pawennau ar batrôl

Gofynnir i gerddwyr cwn cydwybodol CNPT i helpu eu cymdogaeth leol trwy ymddwyn fel llygaid a chlustiau'r gymuned a rhoi gwybod am faterion megis graffiti, baw cwn, goleuadau stryd diffygiol, tipio'n anghyfreithlon,ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol.

Mae Partneriaeth CNPT Mwy Diogel yn credu y gall miloedd o gerddwyr cwn y fwrdeistref sirol chwarae rol bwysig iawn wrth gadw'r cymdogaethau'n fwy diogel a glan. Galwn oll helpu yn y frwydr yn erbyn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall gweithred fach gael effaith fawr. Bydd y cynllun hwn yn cyd-fynd a mentrau cymunedol presennol  megis Gwarchod y Gymdogaeth a chyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu De Cymru (PCSO's)

Ni ddisgwylir i gerddwyr cwn ymyrryd mewn unrhyw sefyllfa ar unrhyw adeg. Eu rol fydd rhoi gwybod am ddigwyddiadau a helpu i gasglu tystiolaeth.

Bydd pob aelod newydd yn derbyn pecyn croeso sy'n cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnyt. Caiff cylchlythyron cyson eu hanfon drwy e-bost a byddant yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, tueddidau troseddu a chyngor gan y bartneriaeth diogelwch cymunedol.

Tim Diogelwch Cymunedol
(01639) 889163 (01639) 889163 voice +441639889163
⠀⠀