Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cam-drin domestig

Beth yw cam-drin domestig?

Mae Cam-drin Domestig yn cynnwys unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o achosion o ymddygiad, trais neu gam-drin sy'n rheoli, yn gorfodi neu'n bygwth.

Byddai hyn yn berthnasol i'r rheini sy'n 16 oed neu hŷn sy'n cael eu cam-drin, neu sydd wedi cael eu cam-drin, gan bartneriaid agos neu aelodau o'r teulu.

Mae cam-drin domestig yn berthnasol i bob rhyw a phob rhywioldeb.

Gall cam-drin domestig gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, y mathau canlynol o gam-drin:

  • Seicolegol
  • Corfforol
  • Rhywiol
  • Ariannol
  • Emosiynol

Sut ydw i'n cael gafael ar gymorth?

Calan DVS

Mae Calan yn darparu amrywiaeth o opsiynau cefnogi uniongyrchol a thymor hir ar gyfer unigolion a theuluoedd sy’n dioddef trais domestig a thrais.

Cymorth i Fenywod Thrive

Cysylltwch â Thrive am gyngor, arweiniad a chefnogaeth gyfrinachol i chi neu rywun rydych chi'n pryderu amdano.

Tu allan i oriau gwaith

Os oes angen cymorth arnoch y tu allan i oriau agor y swyddfa, cysylltwch â'r llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim:

Byw Heb Ofn

Mae'r llinell gymorth hon yn darparu mynediad at gyngor a chymorth i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig. Gall y llinell gymorth hefyd eich cyfeirio at wasanaethau cymorth lleol.

 Ewch i wefan Byw Heb Ofn

Os ydych mewn perygl enbyd ffoniwch 999 OS YDYCH MEWN PERYGL ENBYD, FFONIWCH 999

Strategaeth cam-drin domestig

Mae Castell-nedd Port Talbot yw'r fwrdeistref sirol gyntaf yng Nghymru i ddatblygu strategaeth i ddiwallu anghenion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.