Troseddau busnes
Gellir ystyried bod troseddau busnes a manwerthu yn cynnwys 'pob trosedd ac anrhefn a gyflawnir gan neu yn erbyn busnesau.' Mae'r diffiniad yn eang iawn, ac mae'n cynnwys troseddau mewnol (e.e. gweithwyr yn dwyn, twyll a chyfrifyddu ffug); troseddau allanol (e.e. bwrgleriaeth, cwsmeriaid yn dwyn a fandaliaeth).
Cefndir
Lansiwyd Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel ym mis Hydref 2005. Ar hyn o bryd mae dau gynllun, un yng nghanol tref Castell-nedd ac un yng nghanol tref Port Talbot. Mae'r ddau gynllun bellach wedi'u sefydlu'n gadarn gydag aelodau o'r sector manwerthu a busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cysylltiadau
Mae Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes Castell-nedd Port Talbot yn gysylltiedig â Chymdeithas Genedlaethol Partneriaethau Trosedd Busnes (NABCP), Cymru yn erbyn Troseddau Busnes (WABC), Heddlu De Cymru a'r Ganolfan Troseddau Busnes Genedlaethol
Aelodau
Cynhelir cyfarfodydd bob mis i drafod:
- Problemau a phryderon
- Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau
- Penderfynu ar hyd y gwaharddiad y bydd troseddwyr diweddar yng nghanol trefi yn ei dderbyn
Gorchmynion gwahardd
Dosberthir ffotograffau o droseddwyr lleol hysbys i'r panel cynhwysiad sy'n cynnwys aelodau o'r cynllun a swyddogion o'r partneriaethau i benderfynu ar hyd a thelerau pob gwaharddiad unigol.
Parthau gwahardd
Mae holl aelodau Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes Castell-nedd Port Talbot yn arddangos sticeri Parth Gwahardd fel bod troseddwyr yn gwybod yn glir ble y gallant ac na allant fynd.
Radios StoreNet a NiteNet
Mae Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel yn gweithio ar y cyd ag MRS Communications Ltd ac mae aelodau'r Cynllun Radio yn anelu at leihau gweithgarwch troseddol i fanwerthwyr drwy ddefnyddio rhwydwaith cyfathrebu StoreNet.
Mae radios yn system ddwyffordd sy'n cysylltu'r holl fanwerthwyr sy'n cymryd rhan yng Nghastell-nedd a Phort Talbot â'i gilydd, yr Heddlu a’r uned Rheoli Teledu Cylch Cyfyng.
Mae'r radios yn galluogi lledaenu gwybodaeth am weithgarwch troseddol yn gyflym ledled yr ardal.
Prif nod y radio yw lleihau troseddu ac ofn troseddau ac, yn y pen draw, wella proffidioldeb yr aelod drwy ostwng nifer yr achosion o ladrata a difrod.
Eisiau rhagor o wybodaeth?
Os ydych yn ystyried ymuno â Phartneriaeth Lleihau Troseddau Busnes Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma