PREVENT
Nod Prevent yw lleihau terfysgaeth drwy atal pobl rhag dod yn derfysgwyr a chefnogi terfysgaeth. Mae Castell-nedd Port Talbot wedi sefydlu Panel 'Channel', sef panel amlasiantaethol lleol sy'n cyfarfod i drafod atgyfeiriadau pobl sy'n agored i niwed sydd mewn perygl o gael eu denu i derfysgaeth.
Beth mae Channel yn ei wneud?
Mae Panel Channel yn ceisio diogelu unigolion a allai fod yn agored i gael eu radicaleiddio fel nad ydynt mewn perygl o gael eu denu i fod yn rhan o weithgarwch sy'n gysylltiedig â therfysgaeth.
Sut mae Channel yn gweithio?
Mae proses Channel yn nodi'r rheini sydd fwyaf tebygol o gael eu radicaleiddio ac yn eu cyfeirio drwy'r heddlu neu'r awdurdod lleol at Banel Channel a fydd yn ystyried y ffordd orau o gefnogi pa mor agored i niwed y maent drwy becyn cymorth wedi'i deilwra i'w hanghenion. Mae'r cymorth yn cael ei fonitro a'i adolygu gan Banel Channel.
Pa ffactorau all roi pobl mewn perygl?
Nid oes un ffordd o nodi pwy sy'n debygol o fod yn agored i niwed fel hyn. Gall ffactorau gynnwys;
- pwysau gan gyfoedion
- dylanwad gan bobl eraill neu'r rhyngrwyd
- tensiynau teuluol
- troseddau hiliol/casineb
- diffyg hunan-barch neu hunaniaeth
- achwyniadau personol neu wleidyddol.
Sut ydw i'n gwneud atgyfeiriad i Channel?
Caiff atgyfeiriadau i Banel Channel eu cyd-drefnu gan yr heddlu ond gallant ddod o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd.
Os nad oes bygythiad uniongyrchol
Gall aelodau o'r cyhoedd adrodd i 101
Gall sefydliadau statudol adrodd i'r arweinydd Diogelu yn eu cyfarwyddiaeth/tîm
Mewn achosion o fygythiad uniongyrchol
Os ydych wedi gweld person yn ymddwyn yn amheus neu os ydych yn gweld cerbyd, pecyn neu fag heb neb yn gofalu amdano, symudwch o'r man hwnnw a ffoniwch 999.
Beth mae Llywodraeth y DU yn ei wneud?
Mae Adran 29 Deddf Gwrth-Derfysgaeth a Diogelwch 2015 yn gosod dyletswydd ar rai awdurdodau lleol i roi ystyriaeth briodol i'r angen i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth.
Mae tri amcan penodol i'r strategaeth Prevent a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn 2011:
- Ymateb i her ideolegol terfysgaeth a'r bygythiad a wynebwn ffurflen y rhai sy'n ei hyrwyddo
- Atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth a sicrhau eu bod yn derbyn cyngor a chefnogaeth briodol
- Gweithio gyda sectorau a sefydliadau lle mae perygl o radicaleiddio y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef
Dolenni cysylltiedig
- Report extremism
- Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 Counter-Terrorism
- Counter-Terrorism Strategy (CONTEST) - Gov.uk
- Counter-Terrorism Appendix 2: Prevent
- Channel Guidance
I gael gwybodaeth a chyngor gallwch gysylltu â Chydlynydd PREVENT Castell-nedd Port Talbot ar Channel@npt.gov.uk