Gweithredoedd twyllodrus
Rhywun yn ceisio gwerthu rhywbeth nad ydych ei eisiau ar garreg eich drws? Wedi derbyn e-bost ond ddim yn siŵr a yw'n ddilys?
Twyll yw pan fydd rhywun yn eich camarwain i gymryd mantais, yn ariannol fel arfer, o berson arall.
Seiber-droseddu yw unrhyw weithred droseddol sy'n ymdrin â chyfrifiaduron a rhwydweithiau.
Os ydych wedi dioddef unrhyw drosedd fel y rhain, gallwch roi gwybod yn uniongyrchol i Action Fraud, canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiber-droseddu.
Cliciwch ar y ddolen uchod i fynd yn syth i'w gwefan neu ffoniwch 0300 123 2040 o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am - 8pm.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol neu mewn perygl o niwed, ffoniwch 999 bob amser.