Diogelwch yn y cartref
Cyflawnir y rhan fwyaf o fyrgleriaethau gan fanteiswyr sy'n manteisio ar ddrysau a ffenestri agored neu â mannau gwan, allweddi a adawyd mewn mannau cuddio neu gatiau ochr heb eu cloi.
Cymerwch gamau syml a chost-effeithiol i wella diogelwch eich cartref a lleihau eich siawns o ddioddef bwrgleriaeth.
Diogelwch yn yr ardd
Yn aml, eich gardd yw amddiffynfa gyntaf eich cartref yn erbyn troseddau.
- Dylid torri llwyni'n ôl er mwyn gallu gweld unrhyw ymwthwyr
- Gall goleuadau diogelwch oleuo'r ardd
- Gall llwyni pigog o amgylch yr eiddo fod yn rhwystr effeithiol
- Sicrhewch fod waliau wedi'u hadeiladu'n gadarn a heb gymhorthion dringo