Castell-nedd ar y cyd
Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i atal yng nghanol tref Castell-nedd.
Beth sy'n cael ei wneud am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Castell-nedd?
Dilynir ymagwedd ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Tref Castell-nedd a sefydliadau cefnogi fel y Wallich, Byddin yr Iachawdwriaeth a WCADA (Canolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru) er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cyfuniad o ymgyrchoedd gan yr heddlu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i atal yn uniongyrchol, gan weithio gyda phobl ddiamddiffyn y mae angen cefnogaeth arnynt, a buddsoddi yng nghanol y dref i annog mwy o bobl i ymweld â hi.
Dyma rai o'r prif gynlluniau:
Ymgyrch Lileum
Lansiwyd Ymgyrch Lileum gan Heddlu De Cymru i dargedu'n benodol ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol yng nghanol tref Castell-nedd. Mae'r ymgyrch yn cynnwys cynyddu gweithgarwch a phatrolau'r heddlu, yn ogystal â phwerau ychwanegol i wasgaru pobl sy'n benderfynol o ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn monitro camerâu CCTV mewn mannau cyhoeddus amrywiol yng nghanol y dref i ddarparu amgylchedd mwy diogel i bawb drwy amddiffyn pobl ac eiddo, atal troseddu a helpu i ddatrys hyn pan fydd yn digwydd. Mae dros 20 o gamerâu CCTV yn ardal Castell-nedd, sy'n gweithredu 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Mae'r cyngor hefyd wedi dechrau'r broses i osod camerâu digidol modern yn lle’r rhai presennol gan eu bod yn gallu cynhyrchu lluniau llawer mwy eglur.
Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes (BCRP)
Cynllun ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a busnesau yng nghanol tref Castell-nedd Port Talbot yw hwn, er mwyn lleihau gweithgarwch troseddol. Mae busnesau sy'n cofrestru ar gyfer y cynllun yn cael mynediad at fuddion fel system wyliadwriaeth radio fel y gallant gyfathrebu â masnachwyr eraill am weithgarwch troseddol, a lluniau a gwybodaeth gyfoes am droseddwyr lleol.
Buddsoddiad yng nghanol y dref
Mae cynllun ailddatblygu gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd rhagddo yng nghanol tref Castell-nedd. Bydd y prosiect yn cyflwyno parth hamdden, lles, siopa a dysgu enfawr yng nghanol tref Castell-nedd, gyda phwll nofio, campfa, canolfan iechyd, ardal fanwerthu a llyfrgell fodern. Dyluniwyd yr ailddatblygiad er mwyn dod â gweithgareddau newydd a buddsoddiad i ganol y dref, gan gryfhau ei chynnig masnachol a chefnogi rhagor o bobl i ddilyn ffordd o fyw iach wrth wella cyfleusterau lles ar gyfer y dref a'r ardaloedd cyfagos.
Mae datblygiad newydd gwerth £2.2m yn cael ei adeiladu fel rhan o gynlluniau Coastal Housing i gyflwyno cartrefi cost isel ac eiddo masnachol fforddiadwy yng nghanol y dref. Lleolir y datblygiad oddi ar Stryd y Dŵr a bydd yn cynnwys 12 fflat breswyl newydd a 5 uned fasnachol.
Rhoi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Os ydych wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Castell-nedd, mae'n bwysig eich bod yn adrodd am hyn i Heddlu De Cymru Bydd yn ein helpu ni i ymchwilio i hyn, adeiladu tystiolaeth a chymryd camau gweithredu yn erbyn y rheini sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Gallwch adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn sawl ffordd:
Dros y ffôn: ffoniwch 101 neu mewn argyfwng ffoniwch 999
Ar-lein: www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
Cyfryngau Cymdeithasol: Drwy anfon neges uniongyrchol ar Facebook a Twitter