Grantiau
Mae'r tîm Adfywio yn rheoli nifer o gynlluniau grantiau eiddo gyda'r nod o wella adeiladau busnes mewn ardaloedd masnachol. Mae pwyslais y cynlluniau ar annog twf busnesau a mentrau newydd, creu cyflogaeth a gwella'r amgylchedd masnachol drwy welliannau o safon uchel i’r eiddo. Mae'r grantiau yn ategu gwaith arall sy'n cael ei wneud i adfywio canol trefi.
Grantiau Eiddo Masnachol
Mae'r grant yn cael ei gyfrifo yn ôl disgresiwn, ond fel canllaw yn hyd at uchafswm o 50% o gostau cymwys allanol. Yn ogystal â drychiadau blaen, gallai gwaith cymwys fod yn berthnasol hefyd i doeau, ac i ochr a cefn yr eiddo os ydynt yn amlwg yn weledol. Bydd y cynllun yn rhoi blaenoriaethu i ceisiadau sy'n ymwneud â chreu swyddi, naill ai trwy dechrau busnesau neu ehangu, ac adeiladau sydd amlwg mewn lleoliadau allweddol.
Gwaith cymwys yn cynnwys:
- Adnewyddu blaen siopau
- Adnewyddu ffenestri a drysau
- Arwyddion Newydd
- Nwyddau dwr glaw
- Paentio, rendro a sylw i gerrig a gwaith brics
Gwaith anghymwys yn cynnwys:
- Gwaith trwsio a cynnal a chadw
- Gwaith sy'n ymwneud â iechyd a diogelwch a gofynion statudol
- Gwaith ni fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella amgylchedd cyffredinol yr ardal
Astudiaeth
43 Commercial Road, Taibach
Bu rhaid i Lunacy Boutique symud o'u safle gwreiddiol yn union y tu allan i Ganol Tref Port Talbot erbyn dechrau 2011, maent yn penderfynu prynu yr hen Ganolfan Llogi Adnoddau Gwaith ar Commercial Road yn Taibach. Cyn y byddai'n addas i'r diben fel boutique merched, roedd angen cynnal gwaith adnewyddu helaeth y tu mewn a'r tu allan.
Mae'r cymorth ariannol a ddarperir gan Cynllun Grant Eiddo Masnachol i berchnogion i wneud gwelliannau allanol yn cynnwys blaen siop pren caled newydd, ffenestri a drysau, arwyddion a rendro. Mae'r gefnogaeth ariannol hefyd wedi ryddhau cyfalaf ar gyfer y perchnogion i cynnal gwedd newydd cyflawn tu fewn y boutique, a hefyd llety byw yn y cefn ac ar y llawr gyntaf.
Am ragor o wybodaeth a chanllawiau grantiau, cysylltwch â:-