Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Safleoedd Treftadaeth

Prosiectau Ynni Cynaliadwy

Y Tŷ Tyrbin ym Mharc Margam

Bu Castell-nedd Port Talbot a CADW yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i adfer system trydan dŵr a Thŷ Tyrbin 100 oed ym Mharc Margam. Bydd y Tŷ Tyrbin yn cynhyrchu trydan adnewyddadwy ar y safle. Yn ogystal, bydd y Parc Gwledig yn gwella ei berfformiad carbon ac yn dod yn enghraifft o bŵer trydan dŵr ar gyfer addysg amgylcheddol.

Ymgymerwyd â'r prosiect mewn 2 gam: Penodwyd Acanthus Holden, Penseiri Cadwraeth, i ddatblygu cynllun adfer ar gyfer y Tŷ Tyrbin adfeiliedig, gwag, ac unwaith y cwblhawyd y dyluniad ac y cafwyd caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig, rhoddodd y contractwyr adeiladu, David A Siggery Ltd o Gaerfyrddin, dendr cystadleuol llwyddiannus ar gyfer y prosiect.

Roedd adfer yr adeilad yn cynnwys atgyweirio'r to, gosod ffenestri a drysau newydd, clwydfan ystlumod, gosod cyfleustodau a gwasanaethau ac adnewyddu mewnol.

Wedi i'r gwaith o adnewyddu'r adeilad gael ei gwblhau, penodwyd Heidra Ltd, Peirianwyr Mecanyddol, sy'n arbenigo mewn prosiectau ynni adnewyddadwy, i oruchwylio dylunio a chyflwyno'r system trydan dŵr ac adnewyddu'r tyrbin presennol.
Caiff y tyrbin ei bweru gan ddŵr a gaiff ei fwydo o'r pwll pysgod, drwy bibell danddaearol sy'n rhedeg yr holl ffordd i lawr i'r Tŷ Tyrbin.

Bydd y Tŷ Tyrbin yn darparu gweithdy, swyddfa a man arddangos ar gyfer Cyfeillion Parc Margam, a fydd yn croesawu ymwelwyr i'r cyfleuster, yn rhoi gwybodaeth am hanes y parc ac yn darparu arddangosfeydd archaeoleg a deunydd o'r archifau. Byddant wrth law hefyd i ddangos peirianwaith y tyrbin gweithredol a rhyngweithio â'r arddangosfeydd ynni trydanol.