Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Grant Eiddo Masnachol

Mae'r Grant Eiddo Masnachol (GEM) ar gael i berchnogion mangreoedd masnachol sydd am wella golwg eu hadeilad. Mae'n grant dewisol sy'n talu am hyd at 50% o'r costau cymwys. Mae gwaith cymwys yn cynnwys yr hyn sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella golwg allanol yr adeilad fel sy'n weladwy o fannau cyhoeddus. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys gwaith i flaen yr adeilad sy'n wynebu'r briffordd gyhoeddus, ond gall hefyd fod yn berthnasol i doeau, ac i gefnluniau ac ystlysluniau eiddo os ydynt yn weledol amlwg. Mae'r cynllun yn blaenoriaethu ceisiadau sy'n cynnwys creu swyddi, trwy gychwyn neu ehangu busnesau, yn ogystal â'r rheini sy'n gwella blaenau siopau anghydnaws ar strydoedd mawr traddodiadol ac adeiladau amlwg eraill mewn lleoliadau allweddol.

Mae gwaith cymwys yn cynnwys:

  • Blaen siopau newydd
  • Ffenestri a drysau newydd
  • Arwyddion newydd
  • Nwyddau dŵr glaw
  • Paentio, rendro a rhoi sylw i gerrig a gwaith brics

Ystyrir cost y sgaffaldiau sydd eu hangen i gwblhau'r gwaith cymwys fel cost cymwys hefyd, yn ogystal â ffioedd cael pob caniatâd statudol perthnasol a ffioedd unrhyw weithwyr proffesiynol a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith cymwys, megis penseiri a rheolwyr prosiect.

Mae'r gwaith cymwys yn cynnwys:

  • Gwaith trwsio a chynnal a chadw rheolaidd
  • Gwaith sy'n berthnasol i iechyd a diogelwch a gofynion statudol
  • Gwaith na fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i welliannau amgylcheddol cyffredinol yn yr ardal

Ystyrir bod costau cyfreithiol a gafwyd mewn perthynas â'r prosiectau GEM yn anghymwys.

Am ragor o wybodaeth a chanllawiau'r grant, cysylltwch â - Nicola Bulcraig
(01639) 686683 (01639) 686683 voice +441639686683