Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Safleoedd Allweddol

I ganiatáu i Gastell-nedd Port Talbot fod yn ardal lle gall busnes dyfu a ffynnu, mae angen ystod eang o safleoedd ac eiddo i letya busnesau newydd neu fusnesau sy'n ehangu, mewn ystod o sectorau yn y fwrdeistref sirol.

Mae'r Tîm Datblygiad Economaidd yn chwarae rhan allweddol wrth nodi safleoedd datblygu newydd a chyflwyno adeiladau busnes o safon a fydd yn arwain at greu swyddi.

Wrth ymdrin ag ystod eang o safleoedd ac adeiladau o safleoedd cyflogaeth mawr ar hyd coridor yr M4 i ddatblygiadau gweithdai bychain yn y cymoedd, mae'r tîm yn sicrhau bod pecynnau ariannu yn cael eu gwarantu ar gyfer y mentrau hyn a bod prosiectau o ansawdd yn cael eu llunio a'u cyflwyno.