Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Trefi a Chymunedau

Mae adfywio cymunedau'n rhan allweddol o gynlluniau'r cyngor i wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle mwy deniadol i fyw ynddo, ymweld ag ef a gwneud busnes ynddo.

Mae canol trefi'n lleoedd ar gyfer gweithgarwch masnachol, diwylliannol a dinesig ac maent yn darparu hunaniaeth gyffredinol a chanolbwynt i gymunedau yn y cyffiniau. Felly, ceir llawer o gyfleoedd yng nghanol trefi i gael effaith gadarnhaol er lles busnesau, ymwelwyr, preswylwyr a buddsoddwyr.

Mae'r tîm Eiddo ac Adfywio wedi ymateb drwy arwain cyflwyno prosiectau datblygu a gwelliannau parth cyhoeddus ym mhrif ganolfannau trefi i wella delwedd a pherfformiad, creu cyfleoedd buddsoddi a gwneud y mwyaf o'r cyfraniad i'r economi leol.