Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Adfywio Cymunedol

Nod adfywio’n gyffredinol yw galluogi cymunedau sydd wedi dioddef dirywiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i ailadeiladu eu cymunedau.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’i bartneriaid felly’n ymroddedig i weithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol i nodi a chyflwyno hyfforddiant cymunedol, mentrau economaidd, amgylcheddol a rhai eraill, i wneud cymunedau’n llefydd gwell i fyw a gweithio ynddynt.

Gall y Cyngor a’i bartneriaid gynghori grwpiau a sefydliadau cymunedol sydd am greu mentrau neu unrhyw brosiect arall sydd o fudd i’w cymuned leol.

Mae cefnogaeth ar gael gan ystod o asiantaethau gan gynnwys

  • y Cyngor,
  • Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot,
  • prosiect Cymunedau Cydweithredol Cydgyfeirio ERDF,
  • Cymunedau’n Gyntaf,
  • Canolfan Gydweithredol Cymru,
  • Cwmnïau Cymdeithasol Cymru,
  • Cyswllt Busnes Castell-nedd Port Talbot ac Adran Tai,
  • ac Adran Tai,Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru

Gall yr asiantaethau hyn ddarparu ystod o gefnogaeth fel llywodraethu, rheolaeth ariannol, marchnata, cynllunio busnes a helpu gyda chymorth ariannol.

Gwybodaeth a chymorth pellach

Os oes angen cymorth arnoch i ddatblygu eich grŵp, sefydliad neu brosiect cymunedol, ffoniwch Williams, Rheolwr Adfywio Economaidd Cymunedol ar 01639 686830.

Neu cysylltwch â Matthew Roberts neu Carys Miles, Swyddogion Datblygu Sefydliadau Cynaliadwy Cymunedau Cydweithredol, Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 01639 631246.