Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno cais llwyddiannus am gyllid ar gyfer Cronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU i gyflwyno buddsoddiad o £7.7 miliwn ym Mhontneddfechan er mwyn gwneud y canlynol:
- creu datrysiad parcio parhaol i reoli effaith ymwelwyr ar bentref Pontneddfechan yn well
- cyflwyno darpariaeth tai bach cyhoeddus newydd a gwell
- creu siop fferm/cymunedol
- creu darpariaeth llety ymwelwyr hamddenol
- gwella diogelwch ffyrdd, mannau cyhoeddus a thirlunio.
Mae'r cyngor yn awyddus i glywed barn y preswylwyr ac ymwelwyr â Gwlad y Sgydau ym Mhontneddfechan ynghylch y cynigion hyn, sydd yn y camau cynllunio cynnar.
Am wybodaeth fanwl ynghylch y cynigion hyn, lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth isod.