Adfywio Cymunedol
Nod adfywio’n gyffredinol yw galluogi cymunedau sydd wedi dioddef dirywiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i ailadeiladu eu cymunedau.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’i bartneriaid felly’n ymroddedig i weithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol i nodi a chyflwyno hyfforddiant cymunedol, mentrau economaidd, amgylcheddol a rhai eraill, i wneud cymunedau’n llefydd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
Gall y Cyngor a’i bartneriaid gynghori grwpiau a sefydliadau cymunedol sydd am greu mentrau neu unrhyw brosiect arall sydd o fudd i’w cymuned leol.
Mae cefnogaeth ar gael gan ystod o asiantaethau gan gynnwys
- y Cyngor,
- Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot,
- prosiect Cymunedau Cydweithredol Cydgyfeirio ERDF,
- Cymunedau’n Gyntaf,
- Canolfan Gydweithredol Cymru,
- Cwmnïau Cymdeithasol Cymru,
- Cyswllt Busnes Castell-nedd Port Talbot ac Adran Tai,
- ac Adran Tai,Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru
Gall yr asiantaethau hyn ddarparu ystod o gefnogaeth fel llywodraethu, rheolaeth ariannol, marchnata, cynllunio busnes a helpu gyda chymorth ariannol.
Gwybodaeth a chymorth pellach
Os oes angen cymorth arnoch i ddatblygu eich grŵp, sefydliad neu brosiect cymunedol, ffoniwch Williams, Rheolwr Adfywio Economaidd Cymunedol ar 01639 686830.
Neu cysylltwch â Matthew Roberts neu Carys Miles, Swyddogion Datblygu Sefydliadau Cynaliadwy Cymunedau Cydweithredol, Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 01639 631246.