Plant mewn cyflogaeth
Gall plant 13, 14 a 15 oed wneud rhai swyddi ond mae rhai rheolau llym ynghylch oriau gwaith a'r math o waith y gellir ei wneud. Diben y rheolau hyn yw sicrhau nad yw plant yn gwneud gwaith a allai beryglu eu haddysg neu effeithio arni.
Yn 13 ac yn 14 oed
Pryd y gall plant weithio? | Pa oriau y gall plant weithio? |
---|---|
Diwrnodau Ysgol |
Heb fod yn fwy na chyfanswm o 2 awr mewn un diwrnod yn ystod y cyfnodau canlynol: a) yn y bore rhwng 7am a dechrau'r diwrnod ysgol (uchafswm o awr) b) Yn yr hwyr o'r amser y mae'r ysgol yn cau tan 7pm. |
Dydd Sadwrn * | 5 awr y dydd rhwng 7am a 7pm. |
Dydd Sul | 2 awr y dydd rhwng 7am a 7pm. |
Gwyliau'r Ysgol* | 5 awr y dydd ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos (ac eithrio dydd Sul) rhwng 7am a 7pm. ond ni ddylai cyfanswm yr oriau a weithir bob wythnos fod yn fwy na 25 awr. Mae'n rhaid i chi gael seibiant o 2 wythnos yn olynol mewn blwyddyn, a rhaid cymryd hwn yn ystod gwyliau'r ysgol. |
Yn 15 oed
Pryd y gall plant weithio? | Pa oriau y gall plant weithio? |
---|---|
Diwrnodau Ysgol |
Heb fod yn fwy na chyfanswm o 2 awr mewn un diwrnod yn ystod y cyfnodau canlynol: a) yn y bore rhwng 7am a dechrau'r diwrnod ysgol (uchafswm o awr) b) Yn yr hwyr o'r amser y mae'r ysgol yn cau tan 7pm. |
Dydd Sadwrn * | 8 awr y dydd rhwng 7am a 7pm. |
Dydd Sul | 2 awr y dydd rhwng 7am a 7pm. |
Gwyliau'r Ysgol* |
8 awr y dydd ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos (ac eithrio dydd Sul) rhwng 7am a 7pm, ond ni ddylai cyfanswm yr oriau a weithir bob wythnos fod yn fwy na 35 awr. Mae'n rhaid i chi gael seibiant o 2 wythnos yn olynol mewn blwyddyn, a rhaid cymryd hwn yn ystod gwyliau'r ysgol. |
Yn 16 oed
Bydd oriau cyflogaeth a nodir ar gyfer plant 15 oed yn gymwys i chi tra byddwch o oed ysgol gorfodol. Os dymunwch, yn ôl y gyfraith, gallwch adael yr ysgol ddydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch yn cyrraedd 16 oed.
*Ni all plentyn o unrhyw oed weithio mwy na 4 awr mewn diwrnod heb seibiant gorffwys o 1 awr.
Gwaith a ganiateir
13 oed
- Gallwch gael eich cyflogi i wneud 'gwaith ysgafn' yn unig ar un neu fwy o'r canlynol:
- Gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
- Dosbarthu papurau newydd, cylchgronau a deunydd printiedig arall
- Gwaith siop, gan gynnwys llenwi silffoedd
- Salonau trin gwallt
- Gwaith swyddfa
- Golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl
- Mewn caffi neu fwyty
- Mewn stablau marchogaeth
- Gwaith domestig mewn gwestai neu sefydliadau eraill sy'n cynnig llety
14 & 15 oed
Gallwch gael eich cyflogi i wneud 'gwaith ysgafn'
Gallwch fasnachu ar y stryd os ydych wedi'ch cyflogi gan eich rhieni mewn cysylltiad â'u busnes manwerthuac yn cael eich goruchwylio ganddyntac y rhoddwyd trwydded masnachwr stryd i chi gan yr awdurdod lleol.
16 oed
Bydd y cyfyngiadau uchod yn gymwys o hyd tra byddwch o oed ysgol gorfodol.
Cyflogaeth a waherddir i'r holl blant o oed ysgol gorfodol
Ni all plentyn o unrhyw oed gael ei gyflogi:
- Mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawns neu glwb nos, ac eithrio mewn cysylltiad â pherfformiad a roddir gan blant yn unig.
- Gwerthu neu ddosbarthu alcohol, ac eithrio mewn cynwysyddion wedi'u selio
- Dosbarthu llaeth
- Dosbarthu olewau tanwydd
- Mewn cegin fasnachol
- Casglu neu ddidoli sbwriel
- Mewn unrhyw waith sy'n fwy na thri metr uwchben lefel y ddaear, neu, yn achos gwaith mewnol, fwy na thri metr uwchben lefel y llawr.
- Mewn cyflogaeth sy'n ymwneud â dod i gysylltiad niweidiol â chyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol
- Casglu arian neu werthu neu ganfasio o ddrws i ddrws, ac eithrio dan oruchwyliaeth oedolyn
- Mewn gwaith sy'n ymwneud â dod i gysylltiad â deunydd i oedolion neu mewn sefyllfaoedd sydd, am y rheswm hwn, yn anaddas i blant.
- Mewn gwerthiannau dros y ffôn
- Mewn unrhyw ladd-dy neu yn y rhan honno o siop cigydd neu adeilad arall sy'n gysylltiedig â lladd da byw, cigyddiaeth neu baratoi carcasau neu gig i'w gwerthu
- Fel gwasanaethydd neu gynorthwy-ydd ar gae ffair neu ale ddifyrion neu mewn unrhyw adeilad arall a ddefnyddir at ddiben adloniant drwy beiriannau awtomatig, gemau siawns neu sgil neu ddyfeisiau tebyg
- I ofalu'n bersonol am breswylwyr unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio oni bai fod oedolyn cyfrifol yn ei oruchwylio.
Ffurflen gais am drwydded waith
Llawrlwytho
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am gyflogi plant, ffoniwch y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd ar 01639 763600 neu e-bostiwch sfs@npt.gov.uk. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar y gwefannau canlynol: