Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynhwysiad disgyblion

Nod y Gwasanaeth Cynhwysiant yng Nghastell-nedd Port Talbot yw hyrwyddo cyflawniad a lles i bob plentyn a pherson ifanc.

Yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn neu berson ifanc yn cael cyfle cyfartal i wneud y gorau o'i fywydau a'i ddoniau.

Ein nod yw cyflawni hyn drwy ddarparu cyfleoedd ac adnoddau tra'n sicrhau bod pob plentyn / person ifanc yn cael ei drin yn deg.

Mae Arferion sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn sail i'n gwaith. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod barn, dymuniadau a theimladau plant, pobl ifanc a'u rhieni / gofalwyr yn cael eu clywed. Rydym am i blant gymryd rhan gymaint â phosibl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Prif swyddogaethau ein gwasanaeth yw

  • cyfrannu at adnabod, asesu ac adolygu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc rhwng 0 a 19 oed
  • cefnogi ysgolion i rheoli'r broses o gynhwysiant drwy ddarparu cyngor, arweiniad, cymorth a hyfforddiant o ansawdd uchel i benaethiaid, llywodraethwyr ysgol, staff addysgu a staff cynorthwyol.
  • gwneud darpariaeth arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • cefnogi rhieni a gofalwyr drwy ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth, sy'n hawdd eu cyrraedd
  • gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill i sicrhau darpariaeth effeithiol, amserol a theg i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)