Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Swyddi glanhau ac arlwyo mewn ysgolion

Rydym yn chwilio am lanhawyr ysgol ac arlwywyr ysgol i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Mynediad a Reolir. Mae ystod o swyddi arlwyo a glanhau ar gael gennym ar draws llawer o'n hysgolion sy'n cynnwys oriau gweithio amrywiol. Byddwch yn ymuno â thîm rhagorol a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori Tîm Gwasanaethau Gorau yng ngwobrau nodedig APSE 2021.

Swyddi glanhau ac arlwyo mewn ysgolion

Ynghylch y rolau

Arlwyo

Mae'r tîm arlwyo'n gyfrifol am baratoi brecwastau a chiniawau iach, maethlon i ddisgyblion ar draws ein holl ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gan weithio fel rhan o dîm, byddwch yn gyfrifol am baratoi bwyd sylfaenol, gweini bwyd a chlirio. Bydd angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch a gweithio i safon uchel.

Glanhau

Mae'r tîm glanhau ysgolion yn gyfrifol am sicrhau y gall disgyblion ddysgu mewn amgylchedd glân a diogel.Byddwch yn gyfrifol am ddefnyddio cyfarpar glanhau, peiriannau a chemegion ac yn gallu dilyn canllawiau Iechyd a Diogelwch.

Pam y dylech ymuno â'r cyngor

Mae llawer o fanteision i weithio i'r cyngor megis:

  • mynediad at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • darperir hyfforddiant llawn a sesiynau sefydlu
  • does dim angen profiad
  • oriau ysgol ac oriau gyda'r hwyr (glanhau'n unig) ar gael
  • oriau gwaith sicr, a chyfleodd ar gyfer goramser
  • cyfleoedd i weithio mewn sawl rôl
  • mynediad at Grŵp Iechyd a Lles y cyngor
  • cyflog misol rheolaidd wrth weithio yn ystod y tymor
  • cyfradd dâl gystadleuol

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y rolau, cysylltwch â:

Cyfleoedd arlwyo
(01639) 763036 (01639) 763036 voice +441639763036
Cyfleoedd glanhau
(01639) 763616 (01639) 763616 voice +441639763616

Cefnogaeth swyddi

Os ydych yn teimlo bod angen help arnoch i wneud cais am swydd, mae ein tîm cefnogi cyflogaeth, Cyflogadwyedd CNPT,yma i helpu. Gall y tîm helpu gyda llenwi ffurflenni cais, technegau cyfweliad, magu hyder a chwilio am swyddi. Gallwch gysylltu â Chyflogadwyedd CNPT drwy ffonio 01639 860160 neu drwy lenwi'n ffurflen ymholi.

Cymorth gofal plant

Os ydych yn rhiant i blentyn tair neu bedair oed, gallech fod yn gymwys ar gyfer hyd at 30 awr o gymorth gofal plant a ariennir drwy Gynnig Gofal Plant Cymru