Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Plant mewn cyflogaeth

Gall plant 13, 14 a 15 oed wneud rhai swyddi ond mae rhai rheolau llym ynghylch oriau gwaith a'r math o waith y gellir ei wneud. Diben y rheolau hyn yw sicrhau nad yw plant yn gwneud gwaith a allai beryglu eu haddysg neu effeithio arni.

Yn 13 ac yn 14 oed

Pryd y gall plant weithio? Pa oriau y gall plant weithio?
Diwrnodau Ysgol

Heb fod yn fwy na chyfanswm o 2 awr mewn un diwrnod yn ystod y cyfnodau canlynol:

a) yn y bore rhwng 7am a dechrau'r diwrnod ysgol (uchafswm o awr)

b) Yn yr hwyr o'r amser y mae'r ysgol yn cau tan 7pm.
Dydd Sadwrn * 5 awr y dydd rhwng 7am a 7pm.
Dydd Sul 2 awr y dydd rhwng 7am a 7pm.
Gwyliau'r Ysgol* 5 awr y dydd ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos (ac eithrio dydd Sul) rhwng 7am a 7pm. ond ni ddylai cyfanswm yr oriau a weithir bob wythnos fod yn fwy na 25 awr. Mae'n rhaid i chi gael seibiant o 2 wythnos yn olynol mewn blwyddyn, a rhaid cymryd hwn yn ystod gwyliau'r ysgol.

 

Yn 15 oed

Pryd y gall plant weithio? Pa oriau y gall plant weithio?
Diwrnodau Ysgol

Heb fod yn fwy na chyfanswm o 2 awr mewn un diwrnod yn ystod y cyfnodau canlynol:

a) yn y bore rhwng 7am a dechrau'r diwrnod ysgol (uchafswm o awr)

b) Yn yr hwyr o'r amser y mae'r ysgol yn cau tan 7pm.
Dydd Sadwrn * 8 awr y dydd rhwng 7am a 7pm.
Dydd Sul 2 awr y dydd rhwng 7am a 7pm.
Gwyliau'r Ysgol*

8 awr y dydd ar

unrhyw ddiwrnod o'r wythnos (ac eithrio dydd Sul) rhwng 7am a 7pm, ond ni ddylai cyfanswm yr oriau a weithir bob wythnos fod yn fwy na 35 awr. Mae'n rhaid i chi gael seibiant o 2 wythnos yn olynol mewn blwyddyn, a rhaid cymryd hwn yn ystod gwyliau'r ysgol.

 

Yn 16 oed

Bydd oriau cyflogaeth a nodir ar gyfer plant 15 oed yn gymwys i chi tra byddwch o oed ysgol gorfodol. Os dymunwch, yn ôl y gyfraith, gallwch adael yr ysgol ddydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch yn cyrraedd 16 oed.

Ni allwch ymgymryd â chyflogaeth amser llawn tan ar ôl y dyddiad hwnnw

*Ni all plentyn o unrhyw oed weithio mwy na 4 awr mewn diwrnod heb seibiant gorffwys o 1 awr.

Gwaith a ganiateir

13 oed

  • Gallwch gael eich cyflogi i wneud 'gwaith ysgafn' yn unig ar un neu fwy o'r canlynol:
  • Gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
  • Dosbarthu papurau newydd, cylchgronau a deunydd printiedig arall
  • Gwaith siop, gan gynnwys llenwi silffoedd
  • Salonau trin gwallt
  • Gwaith swyddfa
  • Golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl
  • Mewn caffi neu fwyty
  • Mewn stablau marchogaeth
  • Gwaith domestig mewn gwestai neu sefydliadau eraill sy'n cynnig llety

14 & 15 oed

Gallwch gael eich cyflogi i wneud 'gwaith ysgafn'

Gallwch fasnachu ar y stryd os ydych wedi'ch cyflogi gan eich rhieni mewn cysylltiad â'u busnes manwerthuac yn cael eich goruchwylio ganddyntac y rhoddwyd trwydded masnachwr stryd i chi gan yr awdurdod lleol.

16 oed

Bydd y cyfyngiadau uchod yn gymwys o hyd tra byddwch o oed ysgol gorfodol.

Cyflogaeth a waherddir i'r holl blant o oed ysgol gorfodol

Ni all plentyn o unrhyw oed gael ei gyflogi:

  • Mewn sinema, theatr, disgo, neuadd ddawns neu glwb nos, ac eithrio mewn cysylltiad â pherfformiad a roddir gan blant yn unig.
  • Gwerthu neu ddosbarthu alcohol, ac eithrio mewn cynwysyddion wedi'u selio
  • Dosbarthu llaeth
  • Dosbarthu olewau tanwydd
  • Mewn cegin fasnachol
  • Casglu neu ddidoli sbwriel
  • Mewn unrhyw waith sy'n fwy na thri metr uwchben lefel y ddaear, neu, yn achos gwaith mewnol, fwy na thri metr uwchben lefel y llawr.
  • Mewn cyflogaeth sy'n ymwneud â dod i gysylltiad niweidiol â chyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol
  • Casglu arian neu werthu neu ganfasio o ddrws i ddrws, ac eithrio dan oruchwyliaeth oedolyn
  • Mewn gwaith sy'n ymwneud â dod i gysylltiad â deunydd i oedolion neu mewn sefyllfaoedd sydd, am y rheswm hwn, yn anaddas i blant.
  • Mewn gwerthiannau dros y ffôn
  • Mewn unrhyw ladd-dy neu yn y rhan honno o siop cigydd neu adeilad arall sy'n gysylltiedig â lladd da byw, cigyddiaeth neu baratoi carcasau neu gig i'w gwerthu
  • Fel gwasanaethydd neu gynorthwy-ydd ar gae ffair neu ale ddifyrion neu mewn unrhyw adeilad arall a ddefnyddir at ddiben adloniant drwy beiriannau awtomatig, gemau siawns neu sgil neu ddyfeisiau tebyg
  • I ofalu'n bersonol am breswylwyr unrhyw gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio oni bai fod oedolyn cyfrifol yn ei oruchwylio.

Ffurflen gais am drwydded waith

Llawrlwytho

  • Work permit application form (PDF 60 KB)

    i.Id: 4689
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Work permit application form
    mSize: 60 KB
    mType: pdf
    i.Url: /media/kbfmbfra/sch_work_permit_application.pdf

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am gyflogi plant, ffoniwch y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd ar 01639 763600 neu e-bostiwch sfs@npt.gov.uk. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar y gwefannau canlynol: