Cronfeydd Ymddiriedolaeth Addysg Bellach
Darganfyddwch sut i wneud cais am Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg, Cronfa Ymddiriedolaeth Harold & Joyce Charles a Chyllid Myfyrwyr.
Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg
Bwriedir i’r gronfa hon gynnig budd i’r rheiny sydd wedi mynychu ysgol uwchradd yn ardal y cyn Sir Forgannwg, gan gynnwys Ysgol Howells, ond heb gynnwys ysgolion a oedd yn ardaloedd cyn Bwrdeistrefi Sirol Caerdydd, Abertawe a Merthyr Tudful, am ddim llai na dwy flynedd.
Mae gwobrau ar gael ar ffurf:
- cymorth ariannol ar gyfer y rhain sy’n mynychu cyrsiau cymeradwy na ddarperir ar eu cyfer dan y cynllun cefnogi myfyrwyr arferol, gan gynnwys cyrsiau proffesiynol a thechnegol a
- cymorth ariannol tuag at brynu cyfarpar, dillad, offer, offerynnau neu lyfrau i’r rheiny sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg i’w cynorthwyo i ddechrau mewn proffesiwn, masnach neu alwedigaeth.
Sut i wneud cais
Apply by post
Lawrlwytho
-
Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg 2024-2025 (DOCX 51 KB)
i.Id: 5046
i.ContentType.Alias: nptFile
mTitle: Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg 2024-2025
mSize: 51 KB
mType: docx
i.Url: /media/pgafqkjh/cronfa-ymddiriedolaethaddysg-bellach-morgannwg-2024-2025.docx
Dylid llenwi'r ffurflenni a’u dychwelyd i:
Dylai ceisiadau gael eu marcio “Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg”.
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Mai bob blwyddyn.
Cronfa Ymddiriedolaeth Harold a Joyce Charles
Amcan yr ymddiriedolaeth yw hyrwyddo addysg myfyrwyr graddedig fel y gallant ennill cymhwyster gradd bellach, er budd y cyhoedd yn gyffredinol a phreswylwyr yr ardal h.y. yr ardal ddaearyddol a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe.
Gwahoddir ceisiadau gan breswylwyr yr ardal sy’n cael budd.
Diffinnir preswylwyr fel a ganlyn:
- pobl sy’n byw yma yn ystod y tymor yn unig (h.y. myfyrwyr sy’n mynd i sefydliad yn yr ardal)
- pobl sy’n byw yn yr ardal y tu allan i’r tymor yn unig (h.y. myfyrwyr sy’n mynd i sefydliad y tu allan i’r ardal)
- graddedigion sydd fel arfer yn byw yn yr ardal
Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i fyfyrwyr:
- fyw yn yr ardal (fel a nodir uchod)
- astudio gradd bellach
- peidio â derbyn unrhyw gyllid gan unrhyw gorff dyfarnu arall
Apply by post
Lawrlwytho
-
Cronfa Ymddiriedolaeth Harold & Joyce Charles 2024-2025 (DOCX 33 KB)
i.Id: 5048
i.ContentType.Alias: nptFile
mTitle: Cronfa Ymddiriedolaeth Harold & Joyce Charles 2024-2025
mSize: 33 KB
mType: docx
i.Url: /media/bm0aa3cj/cronfa-ymddiriedolaeth-harold-joyce-charles-2024-2025.docx
Dylid llenwi'r ffurflenni a’u dychwelyd i:
Dylid nodi “Cronfa Ymddiriedolaeth Harold a Joyce Charles” ar geisiadau gan gynnwys amlen gyfeiriedig â stamp arni.
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Mai bob blwyddyn.
Cyllid Myfyrwyr
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru bellach yn prosesu pob cais.
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghyffordd Llandudno, bellach yn gyfrifol am brosesu, asesu a thalu cyllid myfyrwyr ar gyfer pob cais.
I gael manylion ar sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr, ewch i Wefan Cyllid Myfyrwyr.
Os oes gennych ymholiad am eich cyfrif cyllid myfyrwyr dylech gysylltu â: