Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwelliant Strategol Ysgolion

Beth yw RhSGY?

Ystyr RhSGY yw 'Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion '.

Ym mis Medi 2008, cyhoeddodd y cyngor ei fwriad i adolygu darpariaeth addysgol ar draws ysgolion y fwrdeistref sirol.  Bydd yr adolygiad yn helpu'r cyngor i sicrhau bod yr ysgolion cywir yn y mannau cywir a'u bod yn gallu darparu addysg sy'n addas ar gyfer dysgwyr yr 21ain ganrif.

Bydd yn hysbysu'r prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau a fydd yn galluogi'r cyngor i sicrhau ysgolion o ansawdd uchel, gan gyflawni safonau uchel o ddysgu ac addysgu – yn awr ac yn y dyfodol.

Mae'r cyngor wedi mabwysiadu pedair egwyddor allweddol, gan roi eglurder diben a thryloywder ymagwedd i gyflwyno'i raglen gwella ysgolion.  Dyma'r egwyddorion:

  • safonau addysg
  • yr angen am leoedd a hygyrchedd ysgolion
  • ansawdd ac addasrwydd adeiladau ysgol
  • rheolaeth ariannol effeithiol.

Bydd Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion y cyngor yn buddsoddi miliynau yn ysgolion Castell-nedd Port Talbot, gyda 50% o’r gost yn cael ei hariannu drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Hyd yn hyn, mae mwy na £123m wedi’i fuddsoddi mewn ysgolion newydd yn y fwrdeistref sirol gyda rhai eisoes wedi’u cwblhau ac ar waith ac eraill yn cael eu datblygu.

Pam mae angen RhSGY?

Mae cael yr ysgolion cywir yn y mannau cywir a sicrhau eu bod yn 'addas at y diben' yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen.  O ran nifer o feysydd darpariaeth bresennol, mae'r cyngor wedi penderfynu bod angen gweithredu'n ddi-oed. Gallai peidio â gweithredu gael effaith andwyol ar safon yr addysg a ddarperir i blant a phobl ifanc Castell-nedd Port Talbot. 

Mae'r rhaglen gwella yn canolbwyntio ar godi safonau addysgol a chefnogi gwelliant parhaus.  Yn ganolog i'r rhaglen mae cyflawni profiadau addysgol o ansawdd uchel sy'n annog ac yn cefnogi datblygiad disgyblion - profiadau sy'n bodloni dyheadau dysgwyr ifanc, gan wella a chyfoethogi eu bywydau a'u cyfleoedd mewn bywyd.

Bydd y RhSGY yn anochel yn cynnig newidiadau a fydd yn cynnwys adeiladu ysgolion newydd, cynlluniau ailwampio, cyfuno a chau rhai ysgolion a ffyrdd gwahanol o weithio. 

Mae disgwyliad clir y dylai pob awdurdod lleol ddefnyddio arian mewn ffordd gost effeithiol. Atgyfnerthir y disgwyliad hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru. 

Mewn arolygiad diweddar, graddiodd Estyn, Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Castell-nedd Port Talbot yn dda am ei fynediad a'i drefniadau lleoedd ysgol.  Canfu'r arolygwyr dystiolaeth o wneud penderfyniadau a blaenoriaethu effeithiol ynghylch gwella a threfniant ysgolion.  Hefyd, cawsant fod y RhSGY wedi arwain at gyfres o benderfyniadau a chynigion sydd mewn cytgord ag anghenion penodol pobl ifanc a'u cymunedau.  Yn eu hadroddiad, mae'r arolygwyr yn amlygu'r angen i leihau lleoedd dros ben yng Nghastell-nedd Port Talbot yn unol â'r egwyddorion allweddol yn y RhSGY ac maent am i'r Gwasanaeth Addysg gynllunio gweithredu'n unol â hynny.