Seicoleg Addysg a Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion
Cwrdd â'r tîm
Rydym yn dîm o 11 o Seicolegwyr Addysg sy'n gweithio ym mhob ysgol ar draws Castell-nedd Port Talbot. Rydym i gyd yn seicolegwyr ymarferol cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Yn ogystal, mae seicolegwyr addysg yn gweithio o fewn y Tîm Dechrau'n Deg a'r Blynyddoedd Cynnar.
Mae'r Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion hefyd yn rhan o'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg ac mae'n cynnwys amrywiaeth o ymarferwyr cymwysedig sy'n gweithio'n rhan amser ac yn llawn amser yn ein lleoliadau cynradd ac uwchradd.
Yr hyn a wnawn
Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn cynnal ymgynghoriadau rheolaidd a sesiynau datrys problemau gydag athrawon, rhieni a gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol eraill i archwilio unrhyw rhwystrau i ddysgu a lles disgyblion er mwyn creu canlyniadau cadarnhaol i bawb. Mae gan bob seicolegydd gyfrifoldeb am glwstwr o ysgolion ac rhydym yn cynnig rhaglen rheolaidd o ymweld ag ysgolion. Mae nifer yr ymweliadau a ddyrennir yn dibynnu ar faint yr ysgol a lefel yr angen. Mae mynediad i'n gwasanaeth trwy'r ysgolion. Rydym hefyd yn cynnwys ysgolion sy'n cynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion yn yr awdurdod. Gweler y rhestr o ddarpariaethau arbenigol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys: Ymgynghori, Asesu, Arsylwi, Hyfforddi, Gwaith Therapiwtig a Chyngor ar Ymchwil a Pholisi.
Mae'r Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc archwilio a deall eu meddyliau a'u teimladau, a gweithio drwy unrhyw broblemau y maent yn eu hwynebu. Mae mynediad i'r gwasanaeth craidd drwy ysgolion, ond mae rhagor o wybodaeth am Gwnsela a'r gwasanaethau sydd ar gael yn ystod pandemig Covid19 i'w gweld yma http://www.npt.gov.uk/schoolbasedcounselling